Optegydd lleol yn llygadu Wrecsam

Anna-Bowen
Uwch Swyddog Datblygu Eiddo
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
A1 eye wear

Mae'r optegydd lleol Huw Owens wedi cymryd A1 Eyewear drosodd ar Stryd Charles, Wrecsam.

Sefydlwyd y busnes ym 1986, Clare Hodinkson oedd yn berchen ar A1 Eyewear yn flaenorol. Mae Huw Owens wedi caffael y practis llwyddiannus gyda chymorth benthyciad o £50,000 gan Fanc Datblygu Cymru a chyngor gan Busnes Cymru.

Mae A1 Eyewear yn un o'r optegwyr annibynnol mwyaf blaenllaw yn Wrecsam sy'n cynnig profion llygaid, sbectols, lensys cyswllt ac ategolion ynghyd â gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw. Fel y perchennog newydd, mae gan Huw nawr gynlluniau i ddatblygu ymhellach yr ystod o wasanaethau gofal llygaid sydd ar gael. Meddai: "Mae gan A1 Eyewear enw da iawn am gynnig y safonau uchaf posibl o ofal llygaid proffesiynol i'n cwsmeriaid teyrngar.

“Mae gofal ataliol llygaid mor bwysig ond mae'n hawdd esgeuluso eich llygaid oherwydd yn aml nid ydynt yn brifo pan fo problem yn bodoli. Mae cael prawf llygaid rheolaidd yn wiriad iechyd pwysig i'r llygaid a fydd yn debygol o ganfod unrhyw arwyddion cynnar o gyflyrau sy’n effeithio ar y llygaid, ac fe ellir trin llawer ohonynt os ydynt yn cael eu canfod yn ddigon cynnar.

"Yn awr fe fyddwn yn datblygu ein gwasanaethau gofal llygaid ymhellach a hefyd yr ystod o 'wisgoedd' ar gyfer y llygaid yr ydym yn eu darparu, gan gynnwys lensys cyffwrdd, sbectols a sbectols haul. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda'n cleientiaid ac rwy'n ddiolchgar iawn i Fanc Datblygu Cymru a Busnes Cymru am eu cefnogaeth ardderchog. Gall prynu busnes fod yn brofiad sy'n gallu chwarae ar eich nerfau ond roedd eu dull trylwyr a di-rwystr yn golygu fy mod i'n teimlo'n hollol hyderus trwy gydol y pryniant.”

Mae Anna Bowen yn Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru. Meddai: "Mae ein micro fenthyciadau yn cynnig chyllid ariannu fforddiadwy a hyblyg i entrepreneuriaid sy'n bwriadu dechrau, prynu neu dyfu busnes. Rydyn' ni yma i roi help llaw i weithwyr proffesiynol fel Huw sydd â’r dyhead a'r weledigaeth i adeiladu busnes lleol llwyddiannus sydd wrth wraidd bywyd cymunedol.”

Ychwanegodd Clive Barnard, Rheolwr Perthynas Busnes Cymru: "Mae helpu Huw i gytuno ar strwythur busnes a datblygu cynllun busnes cadarn wedi bod yn esiampl wych o ba mor bwysig ydi hi bod entrepreneuriaid yn cael y cyngor busnes priodol. Mae gweithio mor agos â Banc Datblygu Cymru yn rhoi'r cyfle i berchnogion busnes elwa o gael pwynt mynediad syml at ystod o gyfleoedd busnes a chyllid ariannu.”

Be' nesaf?

Cysylltwch gyda’n tîm buddsoddi ymroddedig i ddarganfod sut y gallem gefnogi'ch busnes neu os ydych chi'n meddwl eich bod yn barod i gael cyllid, gwnewch gais heddiw.

Cysylltwch â'n tîm Ymgeisio nawr