- Rhanbarth
-
Gogledd Cymru
- Math o gyllid
-
Benthyciad
- Angen y busnes
-
Tyfu busnes
- Maint
-
BBaCh
- Buddsoddiad
-
Dros £500,000
“Rydym wrth ein bodd bod y Banc Datblygu yn cydnabod yr effaith gymdeithasol yr hyn rydym yn ei wneud ac yn credu yn ein model busnes. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth, sy’n caniatáu i ni ddod â gofal milfeddygol o ansawdd uchel a fforddiadwy i anifeiliaid anwes a’u perchnogion yn y Rhyl.”
Fe wnaeth benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru helpu Animal Trust, practis milfeddygol yng Ngogledd Cymru, i agor safle newydd – gan ganiatáu iddynt ehangu eu gwasanaethau i hyd yn oed mwy o berchnogion anifeiliaid anwes yn y rhanbarth.
Roedd y benthyciad o £700,000 – a ddarparwyd drwy gyfrwng Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru o £500m – i Animal Trust yn caniatáu iddynt brynu safle’r hen Aldi ar Wellington Road, Y Rhyl, yn ogystal â chefnogi’r gwaith o adnewyddu’r safle newydd ar gyfer gofal anifeiliaid.
Creodd y datblygiad newydd yn y Rhyl 15 o swyddi newydd wrth iddo agor, gyda milfeddygon yn darparu ymgynghoriadau am ddim, gofal deintyddol, ysbaddu, gofal cleifion mewnol a llawdriniaeth. Dyma ddegfed ysbyty milfeddygol yr Animal Trust yn y DU.