- Rhanbarth
-
De Cymru
- Math o gyllid
-
Benthyciad
- Angen y busnes
-
Prynu busnes
- Maint
-
BBaCh
- Buddsoddiad
-
Dros £500,000
“Mae dull agored a thryloyw y tîm o’r Banc Datblygu wedi gwneud y broses yn rhwydd; roedden nhw’n gwrando ac wedi dangos diddordeb yn ein dyheadau ar gyfer y White Rose a’n cynlluniau ar gyfer Banyan Care yn y dyfodol. Mae eu cefnogaeth yn golygu ein bod wedi gallu diogelu gwasanaethau i breswylwyr a diogelu 42 o swyddi."
Gyda phrofiad helaeth ym maes gofal dementia arbenigol a henoed eiddil eu meddwl (EMI), sefydlodd Mr a Mrs Seehootoorah Banyan Care Homes Limited i brynu Cartref Gofal White Rose yn Nhredegar Newydd gan y darparwr gofal, Larchwood Care.
Mae White Rose yn gartref gofal pwrpasol sydd wedi’i gofrestru ar gyfer 32 o breswylwyr dros 65 oed, gan gynnwys y rheini sydd â dementia. Fe’i hadeiladwyd yn 1990 ac mae’r adeilad fel arfer dros 95% yn llawn, gyda’r rhan fwyaf o’r preswylwyr yn cael eu hariannu’n gyhoeddus gan awdurdodau lleol gan gynnwys Caerffili, Blaenau Gwent a Bro Morgannwg.
Mae’r benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru wedi galluogi Banyan Care Homes i ddiogelu swyddi’r 42 aelod o staff sy’n darparu gofal 24/7, a chadw’r un rheolwr a fu’n rhan annatod o’r gwaith o redeg y cartref gofal yn llwyddiannus ar gyfer y perchnogion blaenorol. Mae hefyd yn sicrhau parhad gofal i breswylwyr yn y gymuned leol.
Darllenwch y datganiad i’r wasg i ganfod mwy.