Barmouth Beach Club

Chris-Hayward
Swyddog Buddsoddi

Ni fyddai'r mwyafrif o'n cwsmeriaid wedi gallu aros yn y Bermo fel arfer, felly bydd y bobl y byddwn yn dod â nhw i mewn yn gwsmeriaid ffres i fusnesau lleol eraill hefyd.

Anthony Olley, Cyfarwyddwr

Clwb Traeth Bermo yn ganolfan sy'n darparu llety gwyliau ar gyfer pobl anabl a'u gofalwyr.

Prynodd Anthony Olley a'i ferch Kayleigh adeilad diffaith yn y Bermo i'w droi'n llety gwyliau. Ond yn ystod y prosiect fe wnaethant ddarganfod ei fod wedi dirywio'n ormodol i gael ei drosi a bu'n rhaid ei ddymchwel.

Cawsant ganiatâd cynllunio newydd ac adeiladu a gosod ffitiadau a chyfarpar yn yr adeilad newydd. Mae Anthony Olley a’i gydweithwyr wedi buddsoddi £310,000 o’u harian eu hunain yn y prosiect, gyda chefnogaeth o £225,000 ychwanegol gan y Banc Datblygu, yn ogystal â £60,000 o Gynllun Cymorth Buddsoddi Twristiaeth Llywodraeth Cymru.