Bathing Beauty

Rwy’n ddiolchgar iawn i Gaynor. Mae hi wedi bod mor gefnogol a chymwynasgar ers y dechrau. Rwy’n edrych ymlaen at ein perthynas barhaus gan ei bod wedi bod yn allweddol i’n gwaith ehangu, gan dreulio llawer o amser gyda ni a deall yn iawn beth yw pwrpas y busnes.

George Jones, Sylfaenydd, Bathing Beauty

Trosolwg o’r busnes

Mae Bathing Beauty yn arbenigo mewn gweithgynhyrchu cynhyrchion gofal croen naturiol fforddiadwy ac effeithiol i bawb, nad ydyw’n niweidio’r amgylchedd.

Sefydlwyd busnes Bathing Beauty o'r bwrdd cegin yn 2010. Mae Bathing Beauty yn gwmni unigryw mewn sawl ffordd, gan gynnwys y ffaith bod yr holl gynhyrchion yn dal i gael eu gwneud â llaw drwy ddefnyddio technegau traddodiadol, gan eu tîm cyfan o ferched yng nghefn gwlad Gogledd Cymru.

Sylfaenydd

George-Jones

George Jones, Founder - Mae George yn osteopath cymwysedig gyda dros 23 mlynedd o brofiad clinigol. Mae ganddi ddealltwriaeth ddofn o anatomi a ffisioleg y corff dynol, a’r wybodaeth hon, a’i phrofiad fel mam, a lywiodd ei fformwleiddiadau.

Pwrpas y busnes

Cafodd Bathing Beauty ei greu o anobaith a chred ddiysgog mam y gallai wneud yn well. Heb lwyddo i ddod o hyd i unrhyw gynnyrch nad oedd yn gwneud i groen sensitif ei mab ifanc gosi, aeth George ati i greu ei chynnyrch ei hun. Mae George wedi fformiwleiddio pob un o’i 50 o gynhyrchion. Mae hi hefyd yn dylunio’r pecyn, yn ysgrifennu’r copi ac ar y cyd â’i gŵr, Simeon, yn creu’r gwaith celf unigryw ar gyfer y bocsys cynnyrch.

Mae pob cynnyrch wedi’i lunio’n feddylgar i gyflawni diben. Dim ond y cynhwysion hynny sydd eu hangen at y diben hwnnw sydd ym mhob cynnyrch. Mae’r cynhwysion yn dod o ffynonellau gofalus. Gyda diddordeb arbennig mewn sensitifrwydd i’r croen, does dim olew cnau, palmwydd na phersawr, na pharabenau a sylffadau yn y cynhyrchion.

Bathing-Beauty

Mae’r hyn a ddechreuodd ar fwrdd cegin yn 2010, bellach wedi tyfu i gynnwys tri adeilad amaethyddol wedi’u haddasu rhwng Dinbych a Rhuthun, y mae George wedi’u hailenwi’n The Source.

Mae George wedi ennill dros 40 o Wobrau Cenedlaethol, ac mae’n falch iawn mai Bathing Beauty oedd y Brand Harddwch B Corp cyntaf yng Nghymru ym mis Mai 2022. Mae B Corp yn broses archwilio drylwyr, ac mae cyflawni’r safon hon yn dangos bod Bathing Beauty wedi cyrraedd y safonau uchaf, a’u cynnal, o ran Arferion Busnes Moesegol, Cynaliadwy a Thryloyw yn y Byd heddiw.

Cyllid

Funding

Diolch i’n benthyciad micro gwerth £45,000, llwyddodd Bathing Beauty i ehangu i ddiwallu’r galw cynyddol am ei gynnyrch. Roedd yr arian hefyd yn caniatáu i’r busnes symud i fwy o le yn y ganolfan gynhyrchu y mae’n ei rhentu yng Ngogledd Cymru, a buddsoddi mewn peiriannau i wella effeithlonrwydd.

Beth mae pobl yn ei ddweud

Mae George wedi buddsoddi’n helaeth yn y busnes ers iddi ei sefydlu ac mae ganddi gynllun clir ar gyfer y dyfodol, gan adeiladu ar y cynnydd y mae wedi’i wneud hyd yma. Bydd y benthyciad micro yn caniatáu iddi ehangu’r busnes ymhellach i gynhyrchu hyd yn oed mwy o gynnyrch gyda’r galw cynyddol. Mae ganddi hefyd gynlluniau i ddefnyddio’r adeilad ar gyfer digwyddiadau a gweithdai.

Gaynor Morris, Swyddog Gweithredol Buddsoddi, Banc Datblygu Cymru

Mae pob cynnyrch wedi’i lunio’n feddylgar i ddatrys problem. Mae pob cam, o greu’r fformiwlâu, pecynnu, dylunio, gweithgynhyrchu, lapio a dosbarthu, yn cael ei wneud yn fewnol yn The Source. Rydym mewn adeilad rhestredig gradd II hardd yn Llangynhafal, sy’n eiddo i gyngor sir Ddinbych, ac mae’r benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru wedi caniatáu inni brynu peiriannau newydd.

Rwy’n ddiolchgar iawn i Gaynor. Mae hi wedi bod mor gefnogol a chymwynasgar ers y dechrau. Rwy’n edrych ymlaen at ein perthynas barhaus gan ei bod wedi bod yn allweddol i’n gwaith ehangu, gan dreulio llawer o amser gyda ni a deall yn iawn beth yw pwrpas y busnes.

George Jones, Sylfaenydd, Bathing Beauty

Be' nesaf?

Gwnewch ymholiad cychwynnol drwy ein ffurflen cysylltu â ni a gallwn ddechrau trafod eich opsiynau.

Cysylltu â ni