Mae cefnogaeth barhaus y Banc Datblygu yn ein galluogi ni i dyfu ac i esblygu’n barhaus. Rydym ni wedi trawsnewid y busnes o fod yn fenter ‘ffordd o fyw’ fach i fod yn frand sy’n cael ei ffafrio ymysg y rhai sy’n ofalus o’r amgylchedd a materion cymdeithasol wrth siopa.
Stacey Canham-Grant, Sylfaenydd, Black & Beech
Trosolwg o’r cwmni
Adwerthwr ffasiwn ar-lein o Gaerdydd yw Black & Beech ac mae’n gwerthu amrywiaeth o ddillad o ffynonellau moesegol ac ategolion ecogyfeillgar.
Sylfaenydd
Stacey Canham-Grant - Darlithydd dylunio ffasiwn oedd Stacey cyn sefydlu Black & Beech yn 2017. Fe sefydlodd hi Black & Beech fel prosiect rhan amser pan oedd hi ar absenoldeb mamolaeth gyda’i mab cyntaf.

Pwrpas y busnes
Mae Black & Beech yn arbenigo mewn ffasiwn a chynnyrch cynaliadwy o ansawdd uchel sy’n cynnwys dillad o ffynonellau moesegol, ategolion ecogyfeillgar, ac addurniadau unigryw i’r cartref. Eu rhinwedd gwerthu unigryw yw eu hymrwymiad i ddyluniadau ffasiynol, a’u negeseuon grymus.
Cafodd y busnes ei greu er mwyn darparu gofod lle gall unigolion fynegi eu credoau ffeministaidd drwy ffasiwn, gan gefnogi arferion cadarnhaol yn y diwydiant ffasiwn ar yr un pryd. Mae’r brand Black & Beech wedi ei ddefnyddio i annog pobl i weithredu ar bynciau fel hawliau erthylu ac i gefnogi goroeswyr trais domestig.
Mae ymrwymiad Stacey i gynaliadwyedd yn un o elfennau allweddol y busnes. Mae’r crysau-t a'r siwmperi wedi cael ardystiad PETA, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu cynhyrchu mewn ffatri garbon niwtral. Yn ogystal â hyn, mae 95% o’r holl gotwm a ddefnyddir yn organig, ac mae’r gweddill yn gotwm BCI.
Mae’r gwlân a ddefnyddir yn adnewyddadwy, ac yn fioddiraddadwy, a daw 100% o’r gwlân o ffynonellau a darparwyr di-greulondeb. Mae'r sawl sy’n troi’r gwlân yn glynu wrth ganllawiau pum rhyddid lles anifeiliaid yr RSPCA. Maen nhw ar fin cyflwyno dillad gwau sydd wedi eu creu allan o gotwm organig ar gyfer eu cwsmeriaid sy’n figan.
Ar ben hyn oll, mae Planet yn gwrthbwyso carbon yr holl archebion sy’n cael eu gwneud ar y wefan. Y busnes sy’n talu am y gwasanaeth hwn er mwyn ceisio lleihau eu heffaith amgylcheddol.
Gweithio gyda ni

Fe ddyblodd gwerthiant Black & Beech yn dilyn benthyciad cychwynnol gan y Banc Datblygu yn 2022 a roddwyd i'w helpu i dyfu’r ystod o gynnyrch mae’n ei werthu ac i fuddsoddi mewn marchnata.
Mae'r benthyciad diweddaraf wedi ei ddefnyddio fel cyfalaf gweithio i brynu dillad gwau, i recriwtio dylunydd newydd ac i ddatblygu’r farchnad cyfanwerthu. Mae Stacey yn gobeithio y bydd hyn yn cynorthwyo ei chynnyrch i ehangu’n rhyngwladol ac yn ei galluogi i lansio casgliad newydd o ddillad gwau cotwm a lliain ar gyfer tymor y Gwanwyn/Haf.
Beth mae pobl yn ei ddweud
Mae ffasiwn yn ffordd bwerus o fynegi eich hun ac yn arf effeithiol i rymuso pobl. Yn Black & Beech, rydym yn creu gofod lle gall unigolion fynegi eu credoau ffeministaidd drwy ffasiwn, gan gefnogi arferion cadarnhaol yn y diwydiant ffasiwn ar yr un pryd.
Mae cefnogaeth barhaus y Banc Datblygu yn ein galluogi ni i dyfu ac i esblygu’n barhaus. Rydym ni wedi trawsnewid y busnes o fod yn fenter ‘ffordd o fyw’ fach i fod yn frand sy’n cael ei ffafrio ymysg y rhai sy’n ofalus o’r amgylchedd a materion cymdeithasol wrth siopa.
Stacey Canham-Grant, Sylfaenydd, Black & Beech
Mae Stacey wedi datblygu cynnig unigryw sy’n canolbwyntio ar ymrwymiad i gynaliadwyedd. Mae ei dyluniadau o ansawdd uchel a’i chysylltiad cryf â’r gymuned yn rhoi mantais gystadleuol i’r brand. Dyma enghraifft o ffasiwn foesegol ar ei orau ac rydym ni’n edrych ymlaen at weld Black & Beech yn parhau i dyfu.
Lisa Roberts, Swyddog Gweithredol Portffolios, Banc Datblygu Cymru