Deer Technology

Andy-Morris
Uwch Swyddog Buddsoddi

Rydym wir yn gwerthfawrogi cymorth parhaus Banc Datblygu Cymru a’i ffydd yn y tîm sy’n gweithio i Deer Technology. Rhoddodd y cyllid a gawsom ganddo yn y cyfnod cynnar y cyfle i ni gwblhau’r broses o ddatblygu’r cynnyrch, ennill contractau gosod yn gynnar, a chreu platfform i ennyn hyder buddsoddwyr Wealth Club.

Craig Mellor, Prif Weithredwr

Sefydlwyd Deer Technology yn 2014 gan y cyd-sylfaenwyr Hugh Mort a Garry Jackson a gyd-ddyfeisiodd y LimpetReader™ i gymryd darlleniadau mesurydd cywir.

Mae'r dechnoleg yn darparu safon newydd wrth gofnodi darlleniadau mesurydd o bell sy’n anymwthiol a chywir ar gyfer dŵr, trydan, nwy a defnydd mesuryddion eraill.

Sicrhaodd y cwmni o Bort Talbot fuddsoddiad ecwiti gwerth cyfanswm o £1.32 miliwn ym mlwyddyn ariannol 20/21 mewn rownd dan arweiniad y Banc Datblygu.

Yn dilyn y buddsoddiad fe wnaethant sicrhau contract gwerth £2.5 miliwn gyda Wave, manwerthwr blaenllaw yn y farchnad ddŵr di-aelwyd.

Be' nesaf?

Gwnewch ymholiad cychwynnol drwy ein ffurflen cysylltu â ni a gallwn ddechrau trafod eich opsiynau.

Cysylltu â ni