Deer Technology yn ennill contract gwerth miliynau ac yn codi gwerth £1.32 miliwn o fuddsoddiad ecwiti

Colin-Batten
Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
deer technology

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Deer Technology.

Mae Deer Technology o Bort Talbot wedi llwyddo i ddenu buddsoddiad ecwiti gwerth £1.32 miliwn ac mae wedi ennill contract gwerth £2.5 miliwn gyda Wave, un o brif fanwerthwyr y farchnad ddŵr ddibreswyl. 

Banc Datblygu Cymru fu’n arwain y rownd gyda £250,000 o ecwiti gan arwain at godi cyfanswm buddsoddiad y cwmni i £500,000 dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Llwyddodd Wealth Club, sef platfform buddsoddi gwerth net uchel mwyaf y DU i godi £820,000 yn ychwanegol i gwblhau’r rownd ochr yn ochr ag angylion buddsoddi presennol Deer Technology.

Sefydlwyd Deer Technology yn 2014 gan y cyd-sylfaenwyr Hugh Mort a Garry Jackson, sef y ddau a fu’n gyfrifol am ddyfeisio’r LimpetReader™ i ddarllen mesuryddion yn gywir. Mae’r dechnoleg yn darparu dull newydd o gofnodi darlleniadua mesuryddion dŵr, trydan, nwy a deunyddiau traul eraill o bell, heb ymyrraeth ac yn gywir.  Gellir ei osod ar fesurydd analog traddodiadol ac mae’n defnyddio micro-gamera mewn cynhwysydd wedi’i selio i dynnu lluniau sy’n nodi amser y darlleniad ar y mesurydd, ac yna’n eu hanfon drwy gyswllt data diogel at y porth ar-lein. Mae hyn yn golygu na fydd angen defnyddio’r dull darllen â llaw, sy’n gostus ac yn annibynadwy.

Mae gan y LimpetReader™ nod masnach yn y DU a’r UE, a phatent yn y DU, ac mae’n aros i gael patent yn Ewrop, yr UDA ac mewn awdurdodaethau eraill. Gyda deg aelod o staff, mae DeerTech yn defnyddio cwmnïau sydd wedi’u lleoli yn y DU i weithgynhyrchu a chydosod y cynnyrch. Caiff y buddsoddiad gwerth £1.32 miliwn ei ddefnyddio i ariannu twf masnachol cyflym ac i osod 8,500 o ddarllenwyr dros y ddwy flynedd nesaf ar gyfer y manwerthwr dŵr cenedlaethol Wave. Mae Deer Technology yn parhau i wella ei dechnoleg a’i gynnyrch craidd a’r bwriad yw lansio fersiwn cul newydd o’r LimpetReader™ tua diwedd 2021.

Meddai’r Prif Weithredwr, Craig Mellor: “Mae busnesau cyfleustodau yn wynebu pwysau cynyddol gan y llywdoraeth a phwysau rheoliadol i ddarparu darlleniad mesuryddion cywir ac i wella eu manylion amgylcheddol. Rydym wedi treulio amser yn datblygu ac yn creu patent ar gyfer ein technoleg arloesol sydd bellach yn darllen mesuryddion mewn amser real yn gywir i fodloni’r gofynion rheoleiddio, a hynny o bell ac am hanner y pris.

“Rydym wir yn gwerthfawrogi cymorth parhaus Banc Datblygu Cymru a’i ffydd yn y tîm sy’n gweithio i Deer Technology. Rhoddodd y cyllid a gawsom ganddo yn y cyfnod cynnar y cyfle i ni gwblhau’r broses o ddatblygu’r cynnyrch, ennill contractau gosod yn gynnar, a chreu platfform i ennyn hyder buddsoddwyr Wealth Club.”

Meddai Alex Davies, sylfaenydd a Phrif Weithredwr Wealth Club: “Rydym yn cynnig cyfleoedd buddsoddi gwell sy’n fwy deniaol i fuddsoddwyr profiadol o gymharu â’r rhai sydd fel arfer ar gael drwy’r platfform buddsoddi prif ffrwd a chan gynghorwyr ariannol. 

“Cwmni newydd cyffrous yw Deer Technology, sy’n rhoi’r cyfle i gydfuddsoddi ochr yn ochr â Banc Datblygu Cymru fel prif fuddsoddwyr ecwiti. Mae maint y contract gyda Wave yn dangos pa mor fawr yw potensial y tîm, ac mae treialon hefyd yn cael eu cynnal gyda nifer o brif sefydliadau a chwmnïau o’r radd flaenaf yn y DU.  Mae’n werth cadw golwg ar Deer Technology.”

Meddai Col Batten, a fu’n arwain y buddsoddiad ar ran Banc Datblygu Cymru: “Mae darllen mesuryddion yn rheolaidd yn hanfodol er mwyn i’r DU allu cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero-net erbyn 2050 – neu efallai na fydd gwastraff yn cael ei ganfod na’i ddatrys. Er enghraifft, amcangyfrifir nad yw 15% o fesuryddion dŵr y DU yn cael eu darllen am fwy na blwyddyn.

“Mae’r LimpetReader™ yn ffordd effeithiol o droi unrhyw fesurydd analog confensiynol yn fesurydd clyfar. Amcangyfrifir fod 56.4 miliwn o fesuryddion cyfleustodau yn y DU yn unig, felly mae’r farchnad hon yn un sy’n rhoi cyfle gwirioneddol i Deer Technology fel busnes o Gymru i dyfu’n gyflym iawn. Llwyddodd ein cefnogaeth i ddiogelu buddsoddiad gan fuddsoddwyr o Wealth Club, ac rydym yn hyderus iawn y bydd effaith gyfunol ein cyllid cyfalaf yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i Deer Technology a’r gadwyn gyflenwi leol.”