Emily May Interiors & Co

Alun-Lister
Cynorthwyydd Portffolio (Micro Fenthyciadau)

Pan ddaeth lle yn yr uned nesaf at ein un bresennol, roedd yn ymddangos fel yr amser perffaith i ni ehangu ein stiwdios. Roedd y cais am fenthyciad i sicrhau'r uned newydd yn syml ac yn gyflym, gan gymryd ychydig ddyddiau yn unig i'r arian fod gennym ni. I fod yn onest, hwn yw’r profiad hawsaf i mi ei gael i godi arian ar gyfer y busnes ers i mi lansio Emily May Interiors & Co yn 2014.

Emily Black, Rheolwr Gyfarwyddwr

Mae Emily May Interiors & Co o Narberth bellach yn arddangos ystod o ddyluniadau cegin ansawdd uchel yn eu hystafell arddangos estynedig wedi iddynt gael micro fenthyciad cyflym o £25,000 gan y Banc Datblygu.

Astudiodd Emily, perchennog Emily May Interiors & Co, Ymarfer Tecstilau Cyfoes ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae ganddi dros ddegawd o brofiad fel dylunydd mewnol. Roedd hi eisiau gweithredu'n gyflym pan ddaeth uned gyfagos yn ei safle yn Arberth ar gael. Roedd y broses llwybr cyflym yn golygu bod ganddi benderfyniad ar ei benthyciad o fewn dau ddiwrnod busnes yn unig.

Dechreuodd adeiladu ar yr ystafell arddangos newydd ychydig cyn y Nadolig i arddangos ystod newydd o geginau safon uchel a phwrpasol mewn ffrâm ochr yn ochr â'i busnes dylunio ardal fyw bresennol.