- Rhanbarth
-
De Cymru
- Math o gyllid
-
Micro fenthyciad
- Angen y busnes
-
Tyfu busnes
- Maint
-
BBaCh
- Buddsoddiad
-
O dan £100,000
“Mae Smokey Pete a Sam Van Tan allan ar y ffordd yn gwneud pitsas sy’n tynnu dŵr o’r dannedd a nawr gyda chymorth y Banc Datblygu, gallwn hefyd gynnig blas anhygoel o'r Eidal i bobl dda Caerdydd ym Marchnad Dan Do Caerdydd. Mae'n rysait ar gyfer llwyddiant.”
Cafodd Ffwrnes ei sefydlu gyntaf yn 2014, ac fe'I gwnaed o gariad dau ddyn at bitsa Napoli, a thrwy hynny cyfunwyd gwybodaeth Eidaleg draddodiadol am gynhyrchu pizza gyda'r cynnyrch gorau sydd gan Gymru i'w gynnig.
Dechreuodd y ddau gyfaill, Ieuan Harry a Jeremy Phillips, o ardal Llanelli, eu taith pitsa gyda Smokey Pete, fan Piaggio tair olwyn a oedd yn cynnwys popty pitsa, a aeth a nhw i bartion a digwyddiadau ledled Cymru. Ychydig yn ddiweddarach, cawsant fan mwy, gyda ffwrn pitsa hefyd, a gafodd y llysenw Sam Van Tan ganddynt.
Gyda chymorth micro fenthyciad gwerth £30,000, agorodd Ffwrnes fwyty pizza ym Marchnad Dan Do Caerdydd.