Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Green & Jenks

Donna-Strohmeyer
Swyddog Buddsoddi

Mae'r rhyngweithio rydyn ni wedi'i gael gyda Banc Datblygu Cymru wedi bod yn bersonol iawn. Mae gennym gyswllt uniongyrchol y gallwn siarad â nhw unrhyw bryd sy'n cynnig cefnogaeth barhaus, ac mae hynny'n bwysig iawn wrth i ni geisio ehangu'r busnes.

Gilly Pollock, perchennog

Dechreuodd Gilly Pollock Green & Jenks yn 2015 gyda'i mam Shirley a'i merch Harriet. Roedd hwn yn ail-lansiad o’u busnes llaeth teuluol, y Roath Park Dairy Company, a sefydlwyd yng Nghaerdydd ym 1888 gan hen dad-cu Gilly.

Ail-lansiwyd y cwmni yn Nhrefynwy, a dyna lle maent yn gwneud eu gelato gwobrwyedig. Fodd bynnag, roedd Gilly yn awyddus i ailagor yng Nghaerdydd lle cychwynnodd y cyfan, a daeth o hyd i eiddo ger lleoliad gwreiddiol y busnes, gyda ffryntiad Fictoraidd yn debyg i’r siop wreiddiol.

Fe wnaethant sicrhau micro fenthyciad gan Fanc Datblygu Cymru i helpu i ariannu agoriad eu siop yn 2019 i gyflymu eu cynlluniau ehangu. Roedd hyn yn cynnwys datblygu eu busnes cyfanwerthu ac agor yr eiddo i gynnal mwy o ddigwyddiadau.

Gwyliwch y fideo isod i ganfod mwy.