Hope Macy

Jack-Christopher
Swyddog Buddsoddi

Rydyn ni'n deall y rhai sy'n agored i niwed yn ariannol gystal â neb. Rydyn ni wedi ymgysylltu â rheoleiddwyr a benthycwyr amrywiol i greu platfform sy’n diwallu anghenion yr ecosystem hon nad yw’n cael ei gwasanaethu’n ddigonol. Gan ddefnyddio ein technoleg, rydyn ni’n falch o'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni a sut mae defnyddwyr yn elwa arni.

Sam Manning, Prif Weithredwr, Hope Macy

Trosolwg o’r busnes

Mae Hope Macy yn fusnes technoleg ariannol dynamig a reoleiddir sy'n defnyddio bancio agored a dadansoddiad risg credyd i atal cwsmeriaid bregus rhag gorwario a gorfenthyca. 

Mae eu platfform integredig a thechnoleg wedi'i adeiladu ar gyfer sefydliadau ariannol, banciau manwerthu, benthycwyr, cynghorwyr dyled a chwmnïau cyfleustodau sydd eisoes yn bodoli yn y DU, wrth iddynt wynebu pwysau cynyddol gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael eu trin yn deg mewn amgylchiadau ariannol bregus.

Mae’r cwmni, a sefydlwyd yn 2018 ac a leolir yng Nghasnewydd, wedi sicrhau rheoliad penodol yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol fel sefydliad talu, gan ddarparu gwasanaeth rheoli cyfrifon, gwasanaetha talu yn ogystal â gwasanaethau dadansoddi risg credyd i gynorthwyo a deall cwsmeriaid a busnesau bregus.

Rheolaeth

Sam Manning, Prif Weithredwr – Mae gan Sam MBA o Brifysgol Llundain a threuliodd 10 mlynedd yn IBM yn creu technoleg meddalwedd ar gyfer y diwydiant gwasanaethau ariannol. Ers hynny mae wedi llwyddo i greu ac yna gwerthu dau gwmni - y ddau yn darparu gwasanaethau dadansoddi data i'r diwydiant gwasanaethau ariannol.

Mae ganddo gyfuniad o brofiad datblygu technegol, gallu masnachol, ac ymwybyddiaeth gymdeithasol. Caiff Sam ei ysgogi i ddarparu gwell ffyrdd i gwmnïau ddeall eu defnyddwyr cyn iddynt gynnig cynhyrchion ariannol oherwydd ei fod wedi gweld ei fab ei hun, sy'n awtistig, yn cael trafferth defnyddio gwasanaethau ariannol. O ran helpu defnyddwyr, mae llawer o gwmnïau'n methu â mynd i'r afael â phroblemau mynediad sylfaenol.   

Pwrpas y busnes

Mae mwy o ddefnyddwyr yn mynd i ddyled, yn methu â chael credyd, ac mae eraill yn dioddef yn sgil sgamiau. I wneud pethau’n waeth, mae gan lawer o'r rhai sy'n agored i niwed ariannol broblemau iechyd meddwl neu maent yn dioddef o gyflyrau niwroamrywiol.

Mae'n bosibl y bydd y rhai sy'n agored i niwed yn ariannol yn methu â thalu biliau, yn mynd ar ei hôl hi gyda’u taliadau rhent, neu'n methu â chael benthyciadau. Mae hyn yn arwain at broblemau ariannol fel dyled, credyd gwael, a digartrefedd.

Yn ôl cyllid FairForAll, mae 17.5 miliwn o ddefnyddwyr mewn amgylchiadau ariannol bregus ac agored i niwed, ac mae rhai wedi cyrraedd pwynt di-droi’n -ôl. Gall y canlyniadau fod yn ddinistriol a hynny’n seicolegol yn ogystal ag yn ariannol.

I fynd i’r afael â hyn, mae Hope Macy wedi creu platfform technoleg integredig sy'n cynnwys tri chynnyrch craidd: 

  • DataFlex - sy’n rhoi technoleg cyllid agored ar waith, yn chwilio data ariannol defnyddiwr, ac yna’n defnyddio dadansoddeg i nodi’n fanwl y rhesymau dros fregusrwydd.
  • Affordwise  - gwasanaeth cyfeirio credyd, sy'n creu adroddiad dadansoddi ariannol a ddefnyddir i gynorthwyo'r defnyddiwr i gael credyd fforddiadwy, trefnu ad-daliadau dyled, neu ddod o hyd i ffynonellau incwm eraill.
  • Family Connect - cynorthwyydd awtomataidd a gynigir i ddefnyddwyr gadw llygad am drafodion ariannol neu dueddiadau a allai eu niweidio  - os canfyddir problemau posibl, yna rhoddir gwybod amdanynt i aelod o'r teulu.

Mae'r platfform eisoes yn cael ei defnyddio gan nifer o fenthycwyr a chwmnïau rheoli dyledion yn y DU ond mae angen cyllid ychwanegol i ehangu i gwmnïau ledled y DU. 

Cyllid

Trwy ein buddsoddiad sbarduno gwerth ochr yn ochr â rhwydwaith angylion cefnogol, bu modd i Hope Macy ehangu a chyflwyno ei blatfform Bancio Agored ac AI a reoleiddir ledled y DU i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol o fregusrwydd ariannol.

Beth mae pobl yn ei ddweud

Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn rhan o daith Hope Macy gyda’n buddsoddiad – bydd Sam a Graham yn parhau i arloesi ym maes credyd defnyddwyr i ddod o hyd i atebion a fydd o gymorth penodol fel bod y rhai sydd â'r angen mwyaf yn cael mynediad at gredyd yn deg ac yn fforddiadwy.

Rydyn ni yma, nid yn unig i sicrhau cyllid i fusnesau, ond hefyd i helpu arloeswyr sy'n creu cynhyrchion sy'n mynd i gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl - nid yn unig yma yng Nghymru, ond ledled y Deyrnas Unedig. Bydd y platfform newydd a ddatblygir o fudd gwirioneddol i sefydliadau ariannol y mae angen iddynt gydymffurfio â rheoliadau Dyletswydd Defnyddwyr sydd newydd eu cyflwyno gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Edrychwn ymlaen at weld eu platfform newydd yn mynd o nerth i nerth.

Jack Christopher, Swyddog Buddsoddi Banc Datblygu Cymru

Rydyn ni'n deall y rhai sy'n agored i niwed yn ariannol gystal â neb. Rydyn ni wedi ymgysylltu â rheoleiddwyr a benthycwyr amrywiol i greu platfform sy’n diwallu anghenion yr ecosystem hon nad yw’n cael ei gwasanaethu’n ddigonol. Gan ddefnyddio ein technoleg, rydyn ni’n falch o'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni a sut mae defnyddwyr yn elwa arni.

Sam Manning, Prif Weithredwr, Hope Macy

Be' nesaf?

Gwnewch ymholiad cychwynnol drwy ein ffurflen cysylltu â ni a gallwn ddechrau trafod eich opsiynau.

Cysylltu â ni