Insight HRC

Daniel-Kinsey
Swyddog Portffolio

Roedd y broses o weithio gyda’r Banc Datblygu yn hynod o esmwyth. Cawsom lawer iawn o gefnogaeth; roedd wastad rhywun ar y ffôn i'n harwain gyda'r gwaith papur i'w wneud mor ddi-boen â phosibl.

Laura Di Rienzo, Rheolwr Marchnata a Digwyddiadau

Wedi’i sefydlu ym 1995, roedd Insight HRC – ymgynghoriaeth seicoleg busnes ac arweinyddiaeth – wedi tyfu’n sylweddol o dan stiwardiaeth ei sylfaenydd John Lazarus a’i gydberchennog, Simon Wiltshire.

Mae’r ymgynghoriaeth arobryn yn cyflenwi datblygiad arweinyddiaeth, asesiad seicometrig, newid diwylliant a datblygiad tîm ar gyfer rhai o gwmnïau mwyaf y DU a sefydliadau sector cyhoeddus, gan gynnwys Dŵr Cymru Welsh Water, Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro a National Power.

Ond ar ôl dau ddegawd wrth y llyw, roedd y pâr yn barod am newid a chymerodd tîm o bedwar o ferched a oedd yn gweithio yn y cwmni yr awenau trwy gyfrwng allbryniant rheolwyr.

Felly, pwy yw'r ymennydd y tu ôl i'r gweithrediad hwn?

Dewch i gwrdd â thîm Insight HRC

Pip Gwynn

Mae Pip Gwynn wedi bod gydag Insight HRC ers dros 17 mlynedd a hi yw cyfarwyddwr presennol y cwmni. Yn ystod ei chyfnod gydag Insight HRC, mae hi wedi mabwysiadu ymagwedd seicoleg fusnes arbenigol tuag at ddylunio a darparu ymyriadau datblygu arweinyddiaeth ac asesu ar gyfer ei chleientiaid.

Yn seicolegydd galwedigaethol, ei phwrpas yw creu sefydliadau dynol-ganolog sy'n galluogi arweinwyr a thimau i ffynnu.

Mae hi wrth ei bodd yn gweithio gyda'r 'stwff anodd' gydag unigolion, grwpiau a sefydliadau ac mae'n cael ei hysgogi gan awydd i helpu eraill i ddysgu, tyfu a chreu newid ystyrlon a pharhaol er gwell.

Mae Jessica Cooper wedi gweithio yn Insight HRC ers dros 20 mlynedd ac mae’n Weinyddwr a Rheolwr Canolfan Asesu hynod brofiadol. Mae Jessica yn rheoli cymorth gweinyddol a busnes Insight ac mae wedi cydweithio ar amrywiaeth o gleientiaid ar draws ystod eang o sectorau.

Trwy oruchwylio logisteg prosesau dethol ac asesu a rhaglenni datblygu, mae Jessica yn cynhyrchu dogfennaeth o ansawdd uchel, tra'n chwarae rhan bwysig o ran gofal cleientiaid Insight.

Jemma MacLean yw Rheolwr Perthynas Cleientiaid Insight HRC. Mae hi'n weithiwr AD proffesiynol profiadol, gyda hanes cryf o gyflwyno datrysiadau ymarferol sy'n canolbwyntio ar fusnes sy'n darparu cefnogaeth i gyflawni amcanion strategol. Mae Jemma wedi darparu arbenigedd AD ar yr holl fentrau sy'n ymwneud â phobl o fewn sefydliadau'r sector preifat a chyhoeddus, gan ysgogi newid sefydliadol trwy ddefnyddio talent allweddol yn llwyddiannus a chynllunio adnoddau'n effeithiol.

Yn olaf, mae Laura Di Rienzo yn darparu cymorth i'r busnes yn ei adrannau gweinyddol a chreadigol. Mae ei chyfrifoldebau yn tueddu i gynnwys goruchwylio strategaethau cyfryngau cymdeithasol a marchnata Insight HRC, tra'n helpu i drefnu digwyddiadau rhwydweithio allweddol.

Y penderfyniad i weithredu Allbryniant Rheolwyr

Insight HRC DBW

Yn dilyn stiwardiaeth 25 mlynedd o sylfaenydd Insight HRC, John Lazarus, a’i gydberchennog, Simon Wiltshire, yn 2021 roedd y ddeuawd yn teimlo mai dyma’r amser iawn iddyn nhw ddatblygu strategaeth ymadael.

Pan glywodd Pip, Jessica, Jemma, a Laura fod y perchnogion yn ystyried newid, roedden nhw’n awyddus i archwilio’r posibilrwydd o gydweithio i gymryd rheolaeth o’r busnes yr oedden nhw wedi gweithio mor galed iddo ers yr 20 mlynedd diwethaf.

Ym mis Mai 20222, cwblhaodd Insight HRC gynllun Allbryniant Rheolwyr (AllRh) - gyda chefnogaeth Banc Datblygu Cymru, a Busnes Cymdeithasol Cymru.

Mae ganddyn nhw dîm o 10 ymgynghorydd yn gweithio ar draws y DU, gyda’r tîm arwain yn gweithio o’r brif swyddfa newydd ym Marchnad Casnewydd ar ei newydd wedd. Eu ffocws yw parhau i gefnogi eu cleientiaid trwy ddarparu gwasanaethau asesu a datblygu arweinyddiaeth yn seiliedig ar seicoleg.

Dywedodd Pip am yr AllRh: “Mae Insight HRC yn fusnes gwych, yn gweithio gyda rhai o sefydliadau gorau’r DU. Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cwblhau’r AllRh ac ynghyd â’n cynllun busnes cadarn ein nod yw ymestyn ein harbenigedd ac ymestyn ymhellach a pharhau ag etifeddiaeth John a Simon.

“Rydym yn cefnogi ein cleientiaid i fod ar eu gorau, sy’n golygu sicrhau bod pobl yn cael eu gwerthfawrogi, eu grymuso, yn gadarn ac yn hyderus. Roedd y dull gweithredu  hwn yn golygu bod  perchnogaeth gan y gweithwyr yn ffitio’n iawn pan ddechreuon ni edrych ar gynllunio olyniaeth.”

Ariannwyd yr AllRh yn rhannol gan Fanc Datblygu Cymru gyda benthyciad chwe ffigur gan Gronfa Busnes Cymru, yn ogystal â chyngor a chymorth gan Busnes Cymdeithasol Cymru, a ddarperir gan Cwmpas, a elwid gynt yn Ganolfan Cydweithredol Cymru.

Dywedodd Emily Jones, o’r Banc Datblygu: “Mae gan Pip a’r tîm gyfoeth o brofiad a hanes profedig o gyflawni ar gyfer eu cleientiaid.

“Mae ein cyllid yn golygu eu bod nhw nawr yn gallu cymryd rheolaeth o’u tynged eu hunain; buddsoddi yn y busnes a datblygu eu sylfaen cleientiaid ledled y DU o’u swyddfeydd newydd yng Nghasnewydd.”

Gyda’r AllRh wedi’i gwblhau, mae cyfnod cyffrous o’u blaenau yn Insight HRC wrth iddynt symud i gyfnod newydd o dan arweiniad y tîm rheoli a oedd yn hanfodol i’w llwyddiant diweddar.

Cynyddu amlygrwydd merched mewn arweinyddiaeth

Insight HRC

Ar ôl cwblhau ei gytundeb, roedd Insight HRC wedi’i brynu gan ei dîm rheoli sy’n ferched yn unig – eiliad arwyddocaol i’r cwmni ac i arweinwyr benywaidd ledled y DU.

Pan ddaw menywod yn arweinwyr maent yn dod â thalentau a safbwyntiau newydd, ochr yn ochr ag amrywiaeth strwythurol a diwylliannol i gwmnïau, nad oedd yn bosibl yn y gorffennol efallai. Wrth edrych yn ôl ar yr ymateb i’w trosfeddiant, ni allai Laura helpu ond mynegi ei bod yn falch iawn o dderbyn y newyddion.

“Rydym wedi cael ymateb cadarnhaol iawn. Pan rydyn ni wedi siarad â menywod, maen nhw’n meddwl ei bod hi’n anhygoel ein bod ni wedi camu i fyny ac yn gwneud rhywbeth gwahanol,” meddai Laura.

Wrth iddi edrych ymlaen at y dyfodol, mae Laura yn gobeithio y bydd gweithluoedd ar hyd a lled y wlad yn myfyrio ar y gymdeithas amrywiol yr ydym yn byw ynddi ac yn gobeithio gweld cydraddoldeb llawn yn ystafell y bwrdd yn y dyfodol.

“Hoffwn feddwl ein bod yn cymryd camau i gael gweithlu mwy cyfartal – yn enwedig gyda menywod mewn rolau arwain, a’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Mae’n mynd i fod yn broses araf, gan ei bod wedi cymryd cymaint o amser i fynd mor bell â hyn, ond rwy’n mawr obeithio y bydd yn digwydd yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach,” meddai.

Mynd i’r afael â'r broses AllRh

Tra o'r blaen, bu'n rhaid i'r tîm rheoli ganolbwyntio ar redeg y busnes o ddydd i ddydd, ac mae'r trosfeddiannu wedi golygu bod Laura a'i thîm yn ymgymryd â nifer o wahanol gyfrifoldebau nad oeddent wedi arfer â hwy cyn yr allbryniant y rheolwyr o’r busnes.

“Mae wedi bod yn drosglwyddiad esmwyth, ond a dweud y gwir gan ein bod wedi bod mor brysur yn cyflawni ac yn gweithio gyda’n cleientiaid, mae’n rhaid i ni atgoffa ein hunain y gallwn wneud ein penderfyniadau strategol ein hunain yn hytrach na dim ond poeni am ein penderfyniadau yn ein rôl o ddydd i ddydd, sydd wedi bod yn wahaniaeth mawr i ni,” meddai.

“Roedd y broses o weithio gyda’r Banc Datblygu yn hynod o esmwyth. Cawsom lawer iawn o gefnogaeth; roedd wastad rhywun ar y ffôn i'n harwain gyda'r gwaith papur i'w wneud mor ddi-boen â phosibl.

“Cawsom hefyd lawer o gefnogaeth gan ein cyfrifwyr, Haines Watts a’r cyfreithwyr, Darwin Gray, a oedd yn anhygoel, a diolch byth fe wnaethom ni lwyddo i gyrraedd yma yn y diwedd.”

Be’ sydd nesaf i Insight?

Mae Laura wedi pwysleisio pa mor awyddus yw hi i flaenoriaethu ehangu ei gwybodaeth a chanolbwyntio mwy ar yr hyn y gall y busnes ei gynnig wrth symud ymlaen.

“Rydym yn edrych ar bethau i ddyrchafu’r busnes i’r lefel nesaf. Rydym am sicrhau ein bod yn gwella ein gwybodaeth am bopeth yr ydym yn ei gyflawni. Rydyn ni eisiau bod yn fwy arbenigol yn yr hyn rydyn ni'n ei gynnig, yn hytrach na chael agwedd 'bod yn bopeth i bawb',” meddai.

“Rydyn ni eisiau cynyddu ein tîm mewnol, fel y gallwn dreulio mwy o amser yn bod yn strategol, gan ganiatáu i ni gynllunio sut rydyn ni eisiau tyfu yn y dyfodol.

Nawr bod yr allbryniant rheolwyr wedi'i gwblhau, mae cyffro mawr i bawb sy'n ymwneud ag Insight HRC. Mae yna ymdeimlad o falchder hefyd, ac mae Laura yn hynod optimistaidd am weledigaeth y mudiad o dan stiwardiaeth Pip Gwynn a’r tîm rheoli newydd.

“Rwy’n falch iawn,” meddai Laura.

“Mae Pip wedi bod yn anhygoel, ac fe arweiniodd ni drwy’r broses gyfan. Rydym yn gefnogol iawn i’w gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Mae hi wedi ymrwymo’n llwyr i’w wneud y llwyddiant mwyaf y gall fod.”