Mae agwedd y Banc Datblygu’n wahanol i lawer o fanciau’r stryd fawr. Mae gan y Banc Datblygu fuddiant mewn cefnogi twf economaidd a chymdeithasol ar hyd a lled Cymru, felly mae’n deall y darlun ehangach. Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi ei hyblygrwydd hefyd.
Keri Negron-Jennings, Director, Primesave
Trosolwg o’r busnes
Mae Primesave Homes Limited yn fusnes teuluol sy’n canolbwyntio ar adeiladu tai cynaliadwy, ynni-effeithlon, fforddiadwy o ansawdd uchel ym Mhowys a Swydd Amwythig.
Sylfaenwyr
Keri Negron-Jennings a Stephen Jennings, Cyfarwyddwyr - Mae Stephen a Keri – tad a merch – wedi bod yn gyfrifol am gynlluniau datblygu adeiladau newydd preswyl am 15 mlynedd drwy eu prif gwmni masnachu, Primesave Properties Limited. Mae gan y ddau brofiad helaeth o adeiladu cyffredinol ac adeiladu tai. Rhyngddyn nhw a’u tîm, mae gan y busnes dros 50 mlynedd o brofiad.
Pwrpas y busnes
Ers 2008, mae Primesave Properties wedi bod yn darparu tai o ansawdd uchel ar draws Powys a Swydd Amwythig. Mae’n adeiladu pob math o dai, a hynny mewn lleoliadau delfrydol i brynwyr.
Mae Primesave yn darparu ar gyfer prynwyr tro cyntaf, teuluoedd sy’n tyfu neu bobl sy’n dymuno symud o dŷ mawr i fyngalo clyd. Tai teras â dwy ystafell wely, tai mwy i deuluoedd a byngalos â thair ystafell wely – mae’n darparu cartrefi sy’n cyd-fynd ag anghenion ei gwsmeriaid.
Nod y cwmni yw adeiladu tai cynaliadwy sydd o fudd i’r amgylchedd ac sy’n helpu i leihau costau’r cartref. Mae tîm arbenigol Primesave yn gweithio’n agos gydag arbenigwyr amgylcheddol lleol i leihau effaith ei dai ar yr amgylchedd lleol.
Cyllid
Roedden ni wedi darparu dwy lot o gyllid – cyfanswm o £4.679 miliwn – ar gyfer camau un a dau Oaks Meadow. Roedd hyn wedi ei gwneud hi’n bosib bwrw ymlaen â’r gwaith a chafodd cam un ei gwblhau ym mis Medi 2023.
Mae Oaks Meadow ym mhentref Sarn, ar yr A489 rhwng y Drenewydd a’r Ystog. Mae gan yr holl dai le parcio oddi ar y ffordd ac mae gan blotiau sengl garej sengl hefyd. Bydd gwres canolog sy’n llosgi olew yn cael ei osod, yn ogystal ag inswleiddio helaeth yn y lloriau, y waliau a’r atig, a tho solar.
Cafodd naw eiddo eu gwerthu i bobl leol gan ddefnyddio Cynllun Anghenion Lleol Cyngor Sir Powys, gan alluogi prynwyr i brynu 100% o’r eiddo ar gyfradd marchnad ostyngol, fel y cyfrifwyd gan y Cyngor.
Mae’r perchnogion newydd yn berchen ar yr eiddo yn gyfan gwbl ar sail rhydd-ddaliad. Mae natur fforddiadwy’r eiddo yn cael ei chadw i brynwyr yn y dyfodol, oherwydd mae’n rhaid dilyn y meini prawf gwerthu, sy’n golygu nad oes modd eu gwerthu fel buddsoddiadau prynu i osod, fel cartrefi gwyliau nac fel ail gartref.
Beth mae pobl yn ei ddweud
A ninnau’n gwmni teuluol lleol, ry’n ni’n ymfalchïo mewn adeiladu tai newydd o ansawdd uchel sy’n rhoi gwerth da am arian. Mae Oaks Meadow yn gyfle i bobl leol brynu yn eu cymuned leol, p’un ai bod hynny’n golygu eu man geni neu lle maen nhw’n byw neu’n gweithio nawr, a dyna pam ein bod yn awyddus i wneud yn siŵr ein bod yn ffurfio partneriaeth ag ariannwr sy’n deall yr ardal leol.
Mae agwedd y Banc Datblygu’n wahanol i lawer o fanciau’r stryd fawr. Mae gan y Banc Datblygu fuddiant mewn cefnogi twf economaidd a chymdeithasol ar hyd a lled Cymru, felly mae’n deall y darlun ehangach. Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi ei hyblygrwydd hefyd.
Keri Negron-Jennings, Cyfarwyddwr, Primesave
Mae Primesave yn fusnes teuluol sydd wedi hen ennill ei blwyf. Maen nhw’n adeiladu eiddo cynaliadwy, ynni-effeithlon, fforddiadwy o ansawdd uchel. Dyma’n union sydd ei angen ar gymunedau gwledig Powys, a dyna pam mae galw uchel am y tai newydd hyn. Maen nhw’n gwsmer i'r Banc Datblygu ers amser maith ac rydyn ni’n falch o fod yn gweithio’n agos gyda Keri a Steve wrth iddyn nhw dyfu eu busnes a darparu rhagor o dai yng Nghymru.
Anna Bowen, Swyddog Gweithredol Datblygu Eiddo, Banc Datblygu Cymru