Banc Datblygu yn teimlo'n gartrefol ym Mhowys gyda buddsoddiad o £4.68 miliwn

Anna-Bowen
Uwch Swyddog Datblygu Eiddo
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes
Twf
Primesave

Mae gwaith ar fin cael ei gwblhau ar gam cyntaf datblygiad o 44 o gartrefi newydd yn y Drenewydd, Powys yn dilyn dau fuddsoddiad gwerth cyfanswm o £4.68 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru.

Lleolir Oaks Meadow ym mhentref Sarn, ar yr A489 rhwng Y Drenewydd a'r Ystog. Mae amrywiaeth o gartrefi dwy, tair a phedair ystafell wely yn cael eu marchnata gan y datblygwyr Primesave Homes Limited, busnes teuluol sy'n cael ei arwain gan Dad a Merch, sef Steve a Keri Jennings. Bydd gan bob eiddo le parcio oddi ar y ffordd gyda phlotiau ar wahân hefyd yn elwa o garejys sengl. Bydd gwres canolog olew yn cael ei osod gydag inswleiddiad helaeth yn y llawr, waliau a’r llofftydd a tho solar.

Mae dwy lot o gyllid ariannu gwerth cyfanswm o £4.679 miliwn gan y Banc Datblygu ar gyfer cam un a cham dau Oaks Meadow wedi galluogi’r gwaith i symud ymlaen ac fe ddisgwylir i’r gwaith cwblhau cyntaf ar gam un gael ei gwblhau ym mis Medi 2023. Mae naw o’r eiddo yn cael eu gwerthu i bobl leol sy’n defnyddio Cynllun Anghenion Lleol y Cyngor Sir Powys, sy'n caniatáu i brynwyr brynu 100% o'r eiddo am bris gostyngol y farchnad fel y'i cyfrifwyd gan y Cyngor. Yna mae'r eiddo yn eiddo'n llwyr i'r perchnogion newydd sydd â theitl rhydd-ddaliadol. Mae natur fforddiadwy’r eiddo yn cael ei gynnal ar gyfer prynwyr y dyfodol gan fod yn rhaid iddynt gael eu hail werthu gan ddilyn y meini prawf gwerthu sy’n cynnwys peidio â chael eu gwerthu fel buddsoddiadau prynu i osod, cartrefi gwyliau neu ail gartrefi.

Mae Keri Negron-Jennings yn Gyfarwyddwr Primesave. Meddai: “Fel cwmni teuluol lleol, rydym yn ymfalchïo mewn adeiladu cartrefi newydd o ansawdd uchel a gwerth da. Mae Oaks Meadow yn cynnig cyfle i bobl leol brynu yn eu cymuned, boed hynny yn fan geni, preswyliad neu yn le gwaith iddynt a dyna pam yr oeddem yn awyddus i wneud yn siŵr ein bod yn partneru â chyllidwr a oedd yn deall yr ardal leol.

“Mae gan y Banc Datblygu agwedd wahanol i lawer o fanciau’r stryd fawr; mae ganddynt ddiddordeb personol mewn cefnogi twf economaidd a chymdeithasol ledled Cymru ac felly maen nhw’n deall y darlun ehangach. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi eu hyblygrwydd yn fawr.”

Mae Anna Bowen yn Swyddog Datblygu Eiddo gyda Banc Datblygu Cymru. Meddai: “Mae Primesave yn fusnes teuluol sefydledig sy’n adeiladu eiddo o ansawdd da, a hynny yn gynaliadwy, yn ynni-effeithlon ac yn fforddiadwy. Dyna'n union sydd ei angen ar gymunedau gwledig Powys ac felly mae galw cryf am y cartrefi newydd hyn. Fel cwsmer hir dymor i’r Banc Datblygu, rydym yn falch o fod yn gweithio’n agos gyda Keri a Steve wrth iddynt dyfu eu busnes a darparu mwy o gartrefi yng Nghymru.”

Daeth y benthyciad i Primesave Properties o'r Gronfa Safleoedd Segur. Wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae benthyciadau rhwng £150,000 a £6 miliwn ar gael gydag uchafswm o bedair blynedd ar gyfer datblygiadau yng Nghymru.