QLM

Carl-Griffiths
Rheolwr Cronfa Sbarduno Technoleg

Rydym wedi canfod bod Banc Datblygu Cymru yn un o’r partneriaid pwysicaf.

Murray Reed, Prif Weithredwr

Trosolwg cwmni

Mae QLM wedi datblygu math newydd o gamera LiDAR (delweddu, canfod ac amrywio laser) yn seiliedig ar dechnoleg cwantwm sy'n gallu gweld a mesur allyriadau nwyon tŷ gwydr (NTG) yn gywir, gan roi llygaid i'r byd weld allyriadau yn eu ffynhonnell.

Y tu hwnt i fonitro allyriadau ar gyfer y farchnad olew a nwy, mae'r datrysiad QLM yn addas iawn i'w ddefnyddio mewn cymwysiadau NTG-ddwys eraill megis mewn cynhyrchu biomethan, mewn safleoedd tirlenwi, ac mewn gweithrediadau amaethyddol a dŵr gwastraff.

Bydd gwaith QLM yn cefnogi uchelgeisiau rhyngwladol i gyflawni allyriadau sero-net erbyn 2050, gan ddiogelu ein hamgylchedd a'n planed ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Tîm rheoli

Xiao Ai, Prif Swyddog Technegol - Cafodd QLM ei greu gan Xiao, wrth iddo wneud ymchwil ôl-raddedig i ganfod nwy LiDAR un ffoton ym Mhrifysgol Bryste. Sylweddolodd Xiao y gallai ei ymchwil helpu sefydliadau ledled y byd i gyflawni Sero Net trwy liniaru allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Dr Murray Reed, Prif Weithredwr - Fe wnaeth Quantum Technology Enterprise Centre (QTEC) y brifysgol helpu Xiao i ffurfio QLM i archwilio masnacheiddio ei ymchwil. Fe wnaethant neilltuo mentor busnes iddo, Dr Murray Reed, sydd â deng mlynedd ar hugain o brofiad mewn masnacheiddio technoleg flaengar yn Silicon Valley. Daeth Murray yn Brif Weithredwr QLM yn 2019.

Gweithio gyda ni

Daeth buddsoddiad cyn-sbarduno QLM gan Britbots , buddsoddwr busnes roboteg, deallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio arbenigol. Roedd Britbots eisoes wedi gweithio’n llwyddiannus gyda Banc Datblygu Cymru, felly pan ddaeth yn amser ei rownd sbarduno, yn naturiol, cafodd QLM gyflwyniad i’r Banc Datblygu.

Defnyddiwyd y rownd sbarduno, a ddaeth i gyfanswm o £3.1 miliwn, i hybu ehangu gallu technegol a masnachol QLM, i sicrhau dilysiad diwydiannol o dechneg unigryw cwantwm Tiwnadwy Deuod Lidar (TDLidar), a darparu map ffordd i barodrwydd masnachol y camera nwy cwantwm chwyldroadol.

Arweiniwyd y buddsoddiad gan y Green Angel Syndicate ac roedd yn cynnwys syndicet Enterprise100, y Newable Venture Fund, Banc Datblygu Cymru, y Bristol Private Equity Club, Britbots Seed Fund, a’r darparwr datrysiadau technoleg maes olew o Houston, ChampionX.

Yn dilyn y rownd ariannu hon, gwnaeth QLM y penderfyniad strategol i symud i Dde Cymru a manteisio ar glwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd y rhanbarth.

Cyllid

  • Dyddiad y cylch cyllido diweddaraf: Ebrill 2022
  • Maint: Heb ei ddatgelu
  • Y gronfa: Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru

Yn 2022, gwnaeth y Banc Datblygu ail fuddsoddiad yn QLM. Mae rownd ariannu Cyfres-A a llofnodi Cytundeb Cydweithio gyda SLB, a elwid gynt yn Schlumberger, yn helpu QLM i ehangu eu datrysiad a thyfu'n gyflym o'u canolfan yng Nghymru.

Yr hyn y mae pobl yn ei ddweud

Roedd Banc Datblygu Cymru wir yn deall y potensial ar gyfer ein technoleg a faint yr oedd yn seiliedig ar arbenigedd Caerdydd, yn enwedig yr arbenigedd lled-ddargludyddion cyfansawdd sydd yn ne Cymru. Mae'n gwbl hanfodol fel cwmni newydd i gael y partneriaid cywir a fydd yn dod gyda chi ar y daith. Rydym wedi canfod bod Banc Datblygu Cymru yn un o’r partneriaid pwysig hynny i ni.

Bydd y berthynas gyllido a strategol gyda’n prif fuddsoddwr newydd SLB, a elwid gynt yn Schlumberger, a chefnogaeth estynedig buddsoddwyr cychwynnol a newydd yn caniatáu i ni gynyddu graddfa ein gweithgynhyrchu, gan alluogi gostyngiad sylweddol mewn costau, wrth i ni lansio ein datrysiad i’r amrywiol ddiwydiannau a marchnadoedd nwy tŷ gwydr.

Murray Reed, Prif Weithredwr, QLM

Be' nesaf?

Gwnewch ymholiad cychwynnol drwy ein ffurflen cysylltu â ni a gallwn ddechrau trafod eich opsiynau.

Cysylltu â ni