- Rhanbarth
-
De Cymru
- Math o gyllid
-
Ecwiti
- Angen y busnes
-
Tyfu busnes
- Maint
-
BBaCh
- Buddsoddiad
-
Dros £100,000
Mae Rescape Innovation, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd, yn datblygu technoleg realiti rhithwir ar gyfer gofal iechyd. Mae ei gynhyrchion wedi'u cynllunio i helpu cleifion i ymdopi â phoen, adsefydlu ac mynd i’r afael â straen a phryder trwy dynnu sylw'r ymennydd.
Daeth syndicet o ddeg o fuddsoddwyr angel proffil uchel o amrywiaeth o sectorau at ei gilydd i fuddsoddi yn Rescape gyda chefnogaeth gan Angylion Buddsoddi Cymru.
Sicrhaodd y cwmni fuddsoddiad ecwiti o £480,000, gan gynnwys £207,500 a ariannwyd yn gyfatebol drwy gyfrwng Cronfa Gyd-fuddsoddi Cymru sy'n werth £8 miliwn. Bydd hyn yn helpu'r cwmni i fuddsoddi mewn technoleg newydd, allforio a datblygu cynhyrchion newydd i gefnogi adferiad cleifion.
Darllenwch y datganiad i'r wasg yn ei gyfanrwydd.