Off Road Engineering

Mal-Green
Cynorthwyydd Portffolio (Micro Fenthyciadau)

Mae'r cymorth gan y banc datblygu wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Rydyn ni mor ddiolchgar eu bod wedi cael yr hyder i gymryd y naid ffydd oedd yn angenrheidiol i gefnogi ein gweledigaeth.

Sion Pierce, Perchennog

Roedd Sion Pierce yn astudio peirianneg ym Mhrifysgol Harper Adams pan glywodd am ffermwr anabl nad oedd yn gallu cael mynediad at ei holl dir yn ddiogel.

Gyda micro fenthyciad cyfalaf gweithio o £25,000, mae o wedi mynd ati i gynllunio cadair olwyn newydd chwyldroadol sy'n dod â nodweddion swyddogaethol cadair olwyn a cherbyd sy'n gallu gyrru ar bob tirwedd (a adwaenir fel ATV) at ei gilydd.

Ac yntau'n cael ei gynhyrchu gan Off-Road Engineering Limited yn Ninbych, gall y HexHog ymdopi â mwd, dŵr, traethau tywodlyd, eira neu rew.

Mae ganddo batent o'r DU a'r UDA ar gyfer cerbyd symudedd unigryw ac mae o eisoes wedi derbyn archebion o bob rhan o Ewrop. Mae defnyddwyr yn amrywio o unigolion preifat sy'n mwynhau bywyd awyr agored i weithwyr fferm sydd wedi colli eu gallu i barhau i weithio oherwydd damwain. Yn syml, mae'r HexHog yn gerbyd symudedd unigryw sy'n newid bywydau.