Smugglers Livery and Equestrian Centre

Michelle Noble
Swyddog Buddsoddi

Gyda help Barford Owen Davies, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’r Banc Datblygu, rydym bellach wedi cael y cyllid sydd ei angen i gymryd camau cadarnhaol i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd ac arbed arian yn y tymor hir.

Melissa Burles, Sylfaenydd, Smugglers Livery Yard and Equestrian Centre

Trosolwg o’r busnes

Mae Smugglers Livery and Equestrian Centre yng Nghoed-duon ac yn ganolfan sydd wedi’i chymeradwyo gan y BHS a’r Pony Club. Mae’r Ganolfan yn cynnwys ysgol farchogaeth, arena dan do, dau menage awyr agored gyda llifoleuadau, caffi a siop tac.

Mae Smugglers yn cynnig hyfforddiant profiadol ar farchogaeth ar ei geffylau a’i ferlod ei hun ac mae hefyd yn cynnig darpariaeth stablau hurio i berchnogion ceffylau. Dechreuodd y busnes yn 2013 o dan yr enw Gelligoediog Riding Stables, a oedd yn agor un noson yr wythnos ac ar ddydd Sadwrn.

Fe dyfodd yn gyflym, gyda nifer y ceffylau marchogaeth a’r diwrnodau gwersi yn cynyddu. Ar ôl mynd yn rhy fawr i’r iard, fe wnaethon nhw brynu iard stablau hurio mawr a oedd eisoes yn bodoli, ac mae’r busnes wedi bod yn gweithredu o dan yr enw Smugglers Livery and Equestrian Centre ers mis Mai 2017, ar ôl symud i’r safle presennol.

Mae’r busnes bellach yn gweithredu chwe diwrnod yr wythnos ac yn cyflogi 16 aelod o staff i ofalu am y 35 o geffylau a darparu gwasanaethau stablau hurio, gwersi marchogaeth, partïon merlod, sioeau a chlinigau.

Sylfaenydd

Melissa Burles

 

Melissa Burles, Sylfaenydd - Sefydlodd Melissa y busnes yn 2013, gan ddechrau gyda thri cheffyl a oedd yn cael eu defnyddio i gynnig gwersi: Tom, Rosie a Jess. Ei gweledigaeth yw darparu cyfleusterau, gwasanaethau a phrofiadau marchogaeth cofiadwy o’r radd flaenaf i bobl o bob oed.

Cyllid

Funding

 

Gyda chefnogaeth gan y cwmni cyfrifyddu Barford Owen Davies, cafodd Smuggers Livery and Equestrian Centre gyllid drwy’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd i osod system solar 50kWp ar y to. Mae hyn yn cynnwys 120 o baneli solar 420w a thri batri a fydd yn cynhyrchu 42,500Kwh o ynni adnewyddadwy bob blwyddyn ac yn helpu i ddiogelu’r busnes rhag costau trydan cynyddol yn y dyfodol. Cafwyd grant hefyd o £25,000 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ochr yn ochr â’n benthyciad ni, i fuddsoddi yn y mesurau gwyrdd.

Beth mae pobl yn ei ddweud

Mae pob math o fusnesau gwahanol yn gallu defnyddio ein benthyciadau busnes gwyrdd i fuddsoddi mewn technoleg adnewyddadwy a gwneud gwelliannau i fod yn fwy cynaliadwy. Drwy gyfuno ein benthyciad â grant gan yr awdurdod lleol, mae Melissa wedi gallu cael gafael ar becyn cymorth a fydd yn lleihau allyriadau carbon ac yn lleihau costau. Mae pawb ar ei ennill ac rydym yn falch o weld busnes arall yn elwa o’n Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd.

Michelle Noble, Swyddog Buddsoddi, Banc Datblygu Cymru

Rwyf wrth fy modd â cheffylau a pharhau i ddatblygu Smugglers fel canolfan farchogaeth bwysig sy’n golygu buddsoddi’n barhaus yn ein cyfleusterau ac yn ein pobl. Gyda help Barford Owen Davies, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’r Banc Datblygu, rydym bellach wedi cael y cyllid sydd ei angen i gymryd camau cadarnhaol i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd ac arbed arian yn y tymor hir.

Melissa Burles, Sylfaenydd, Smugglers Livery Yard and Equestrian Centre