Benthyciad o £35,000 gan Fanc Datblygu Cymru i bweru Canolfan Lifrai a Marchogaeth Smugglers

Michelle Noble
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes
Cyllid
Twf
Smugglers Livery

Mae Canolfan Lifrai a Marchogaeth Smugglers yn y Coed Duon yn cael ei phweru gan ynni gwyrdd yn dilyn benthyciad gwyrdd o £35,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Wedi’i sefydlu yn 2013 gan Melissa Burles, a arferai redeg Ysgol Farchogaeth Gelligoediog, mae Smugglers yn Ganolfan a gymeradwyir gan y BHS a’r Clwb Merlod. Mae ganddi ysgol farchogaeth, arena dan do, dwy fenage awyr agored gyda llifoleuadau, caffi a siop offer. Cyflogir 16 o staff i ofalu am y 35 ceffyl a darparu gwasanaethau lifrai, gwersi marchogaeth, partïon merlod, sioeau a chlinigau.

Gyda chymorth y cwmni cyfrifyddu Barford Owen Davies, llwyddodd Melissa Burles i sicrhau cyllid i osod system solar 50kWp ar y to. Mae hyn yn cynnwys 120 o baneli solar 420w a thri batri a fydd yn cynhyrchu 42,500Kwh o ynni adnewyddadwy y flwyddyn ac yn helpu i ddiogelu'r busnes yn y dyfodol rhag costau trydan cynyddol. Mae'r buddsoddiad wedi'i ariannu gan fenthyciad o £35,0000 gan y Banc Datblygu a grant o £25,000 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Dywedodd Melissa Burles: “Rwy’n teimlo’n angerddol am geffylau ac yn parhau i adeiladu Smugglers fel canolfan farchogaeth flaenllaw sy’n golygu buddsoddiad parhaus yn ein cyfleusterau a’n pobl. Gyda chymorth Barford Owen Davies, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’r Banc Datblygu, mae gennym ni bellach y cyllid sydd ei angen i gymryd camau cadarnhaol i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd ac arbed arian yn y tymor hir.”

Dywedodd Carrie Barford o Barford Owen Davies: “Mae Melissa yn berchennog busnes uchelgeisiol sy’n canolbwyntio ar ddarparu cyfleusterau marchogaeth o’r safon uchaf a phrofiadau marchogaeth cofiadwy. Fel cleient hir sefydlog, rydym yn falch o fod wedi gallu gweithio gyda hi i sicrhau pecyn ariannol a fydd yn torri costau ac yn ei galluogi i wneud cynnydd gwirioneddol ar y ffordd i sero net.”

Mae Michelle Noble yn Swyddog Buddsoddi gyda'r Banc Datblygu. Meddai: “Gall pob math o wahanol fusnesau ddefnyddio ein benthyciadau busnes gwyrdd i fuddsoddi mewn technoleg adnewyddadwy a gwneud gwelliannau i ddod yn fwy cynaliadwy. Drwy gyfuno ein benthyciad â grant gan yr awdurdod lleol, mae Melissa wedi gallu cael gafael ar becyn cymorth a fydd yn lleihau allyriadau carbon ac yn torri costau. Mae pawb ar eu hennill ac rydym yn falch o weld busnes arall yn elwa ar ein Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd.”

Ariennir y Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cynnig cyllid o £1,000 hyd at £1.5 miliwn gyda chyfraddau llog gostyngol a chyfalaf amyneddgar i gefnogi busnesau sy’n ymgymryd â phrosiectau effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio. Mae'r Cynllun hefyd yn darparu mynediad at gymorth ymgynghorol wedi'i ariannu'n llawn ac yn rhannol i gynnal archwiliadau ynni penodol i fusnes. Gall cwmnïau cyfyngedig, masnachwyr unigol a phartneriaethau wneud cais am gyllid drwy’r Cynllun yn amodol ar fod wedi’u lleoli yng Nghymru ac yn masnachu am o leiaf dwy flynedd gydag o leiaf un set o gyfrifon blynyddol wedi’u ffeilio.