Ardal fenter

Gallwn ostwng y gyfradd llog ar ein benthyciadau hyd at 2% ar gyfer busnesau sy'n rhan o ardal fenter neu sy’n barod i adleoli i ardal o’r fath.

enterprise zone

 

Mae gan Lywodraeth Cymru wyth Ardal Fenter ledled Cymru. Ardaloedd dynodedig yw’r rhain sy’n cynnig cymorth wedi’i ddylunio i ddenu a chefnogi busnesau.

Mae pob ardal yn hyrwyddo sectorau a sgiliau arbenigol sy’n gysylltiedig â’r ardal leol. Dyma’r lleoliadau presennol: Ynys Môn, Maes Awyr Caerdydd a Sain Tathan, Canol Caerdydd, Glannau Dyfrdwy, Glynebwy, Dyfrffordd y Ddau Gleddau, Glannau Port Talbot ac Eryri.

Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, gallwn ostwng y gyfradd llog ar ein benthyciadau hyd at 2% ar gyfer busnesau sy'n rhan o ardal fenter neu sy’n barod i adleoli i ardal o’r fath.

I wneud cais, rhaid i chi lenwi ein ffurflen gais ar-lein yn gyntaf.  Unwaith y bydd eich cais yn caei ei ystyried, bydd ein timau buddsoddi yn cysylltu â chi i drafod unrhyw ostyngiad posibl yn y gyfradd, os ydych chi’n gymwys. Mae gostyngiadau mewn cyfraddau llog yn ddarostyngedig i fodloni’r gofynion a nodir yn ein polisi prisio.

I gael rhagor o wybodaeth a manteision ychwanegol adleoli i Ardal Fenter, ewch i’r adran Ardal Fenter ar wefan Busnes Cymru.

ACAI, Ardal fenter Sir y Fflint

"Mae’r gefnogaeth gan Fanc Datblygu Cymru eleni wedi gwneud y gwahaniaeth mwyaf anhygoel."

 

Darllen mwy