Canllaw i fusnesau - sut i fanteisio ar gymorth cyllid archwiliad ynni drwy’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd

Beth yw’r archwiliad ynni mewn perthynas â Chynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd?

Drwy’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd, gallwch gael mynediad i gyllid grant i gyflawni archwiliad ynni annibynnol. Mae’r cymorth hwn i chi os ydych chi’n teimlo nad oes gennych y wybodaeth, yr amser neu’r gallu i nodi’r camau priodol a fydd yn mynd â’ch busnes ar daith Sero Net. Fel arfer, byddwch yng nghanol camau cychwynnol datgarboneiddio, ac mae’n bosibl y bydd angen cymorth ac arweiniad arbenigol arnoch i sicrhau bod eich gweithredoedd yn effeithiol o ran uchafu gostyngiadau ynni a chostau.

Efallai y bydd yn defnyddiol i chi ddarllen ein Canllaw i fusnesau - beth yw archwiliad ynni? i gael rhagor o wybodaeth.

Beth gallaf i hawlio?

Mae’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd yn cynnig 50% o bris ymgynghorydd annibynnol i gyflawni archwiliad ynni. Y cyfanswm y gallwch hawlio yw £10,000, h.y., £20,000 yw cyfanswm y gwaith. Ar gyfer unrhyw hawliadau sy’n fwy na £2,500, h.y., cyfanswm o leiaf £5,000, bydd angen dau ddyfynbris arnom er mwyn dangos tystiolaeth o werth am arian yn rhan o’ch cais.

Beth sydd ei angen arnaf er mwyn gwneud cais?

Er mwyn cyflwyno cais, bydd arnoch angen bod wedi nodi ymgynghorydd i weithio gydag ef a rhoi dyfynbris, neu sawl dyfynbris, yn dibynnu ar y gwerth fel y’i nodir uchod.

Yn ogystal, fe fydd angen i chi fod wedi bod yn masnachu ers o leiaf 2 flynedd, bod yn fusnes bach a chanolig heb unrhyw faterion credyd gwael, megis CCJau neu ddeisebau dirwyn i ben (winding-up petitions).

Sut ydw i’n dod o hyd i ymgynghorydd/archwilydd?

Ni fyddwn yn argymell ymgynghorwyr penodol, ond gallwch ddod o hyd i lawer o ddarparwyr yn y farchnad. Fel man cychwyn, gallwch gael cip ar dudalen aseswyr cynllun Cyfle Arbed Ynni Llywodraeth y DU (ESOS).

Cyn cytuno i weithio gyda thrydydd parti, mae hi’n bwysig eich bod chi’n gwneud yn siŵr bod ganddo gymhwyster perthnasol gyda sefydliad proffesiynol mewn asesiadau ynni neu archwiliadau ynni adeiladau. Dyma enghreifftiau o gymwysterau perthnasol:

  • Cymdeithas Peirianwyr Ynni – archwilydd ynni rhyngwladol ardystiedig neu reolwr ynni rhyngwladol ardystiedig
  • CIBSE (Sefydliad Siartredig y Peirianwyr Gwasanaethau Adeiladu) – cofrestr ymgynghorwyr carbon isel (LCC) CIBSE
  • Systemau Ynni Elmhurst – asesydd annomestig a gymeradwywyd gan Elmhurst
  • Sefydliad Ynni – rheolwr ynni siartredig, cofrestr ymgynghorwyr ynni proffesiynol
  • Cymdeithas Rheolwyr Ynni – cofrestr aseswyr cynllun arbed ynni EMA
  • Sefydliad Peirianwyr Cemegol – cofrestr peirianwyr cemegol siartredig (MIChemE/FIChemE) 
  • Sefydliad Rheoli ac Asesu Amgylcheddol – cofrestr aelodau IEMA a all weithredu fel aseswyr arweiniol trydydd parti
  • Sefydliad Gwyddorau Amgylcheddol – asesydd ynni arweiniol IES
  • Stroma Certification Ltd – ardystiad aseswyr ynni annomestig

 

Beth yw isafswm gofynion yr allbwn archwiliad ynni?

Mae canllawiau ar gael yma i ymgynghorwyr sy’n gwneud gwaith a ariennir yn rhannol gan y Cynllun hwn. Rydym yn argymell eich bod yn rhannu’r canllaw ac yn trafod y gofynion gyda’r ymgynghorydd cyn i chi gytuno i’r gwaith. Bydd hyn yn sicrhau y gall yr ymgynghorydd fodloni holl ofynion y cynllun. Ar ôl cwblhau’r gwaith, ac er mwyn hawlio’r grant, bydd gofyn i chi ddatgan bod y gwaith wedi’i gwblhau yn foddhaol a chyflenwi copi o’r adroddiad.

Sut ydw i’n gwneud cais?

Bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrin â cheisiadau ar gyfer y cyllid grant ymgynghoriaeth. Gallwch gael mynediad i’r ffurflen gais yma. Mae canllawiau ar lenwi’r ffurflen ar gefn y ffurflen gais.

Sut ydw i’n hawlio’r cymorth cyllid grant?

Er mwyn hawlio 50% o’r costau ymgynghoriaeth, mae’n rhaid i chi fod:

  • Wedi cael a derbyn cynnig grant gan y Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd yn dilyn cyflwyno cais
  • Wedi cwblhau Archwiliad Ynni gyda’r ymgynghorydd a enwir ar y cais
  • Wedi talu anfoneb yr ymgynghorydd yn llawn

Gallwch gyflwyno hawliad y grant, y ffurflen adborth a’r anfoneb perthnasol i yma i gael ad-daliad gwerth 50% o’r costau. Byddwn yn anfon y dogfennau hyn yn dilyn derbyn y cynnig grant.

Pa mor hir fydd hi’n cymryd i brosesu fy hawliad?

Rydym yn anelu at ymdrin â phob hawliad o fewn 20 diwrnod o dderbyn yr holl wybodaeth ofynnol.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Unwaith i chi gwblhau eich archwiliad ynni, dylech allu nodi pa fesurau sydd fwyaf addas i chi er mwyn elwa ar arbedion ynni a chostau. Y cam nesaf fydd nodi cyflenwr addas i hwyluso gosodiad y gwaith. Mae’n bosibl y bydd eich ymgynghorydd eisoes wedi argymell cyflenwyr i chi fynd atynt.

Yn ogystal, efallai y byddwch eisiau cyllid i gefnogi’r prosiectau a nodir. Mae llawer o ffyrdd o gael mynediad i gyllid, gan gynnwys drwy eich perthynas bresennol â banc. Fel arall, cysylltwch â’r Banc Datblygu i gael mynediad i gyllid â chymhelliant drwy’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd.

Gyda phwy ddylwn i gysylltu i gael mwy o wybodaeth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch y cymorth ymgynghoriaeth sydd ar gael drwy’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd, ffoniwch cysylltwch â ni.