Cynhadledd Allforio Cymru 2018

Bydd Banc Datblygu Cymru yn arddangos i Gynhadledd Allforio Cymru 2018, digwyddiad ar gyfer pob busnes yng Nghymru sydd ag uchelgais i dyfu’n rhyngwladol.

 Mae’r gynhadledd yn rhoi pob math o wybodaeth a chyngor i allforwyr newydd a phrofiadol ar bob agwedd ar allforio a sut y gall Llywodraeth Cymru helpu eich busnes chi.

Bydd pawb sy’n bresennol yn cael y cyfle i fynd i arddangosfa’r gynhadledd - amrywiaeth o sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat sy’n cynnig gwasanaethau a chyngor i allforwyr.  Gallwch hefyd gymryd rhan mewn trafodaethau bwrdd crwn gan roi cyngor manwl ar rai o’r materion cyffredin sy’n codi wrth allforio, mynychu seminarau wedi’u cyflwyno gan arbenigwyr yn y farchnad o Swyddfeydd Tramor Llywodraeth Cymru, trafod ag allforwyr eraill er mwyn rhannu profiadau a chael cyngor un-i-un drwy sesiynau galw heibio gydag arbenigwyr a chynghorwyr ym maes allforio.

Bydd ein staff wrth law i drafod gwahanol opsiynau ariannu ar gyfer eich busnes.

Pwy sy'n dod

Rachel-Miles
Rheolwr Monitro Portffolio
Donna-Strohmeyer
Swyddog Buddsoddi
Emily-Wood
Swyddog Buddsoddi