Gwobrwyon Womenspire. Dathliad Bywiog o Fenywod yng Nghymru

Mae Banc Datblygu Cymru yn falch o fod yn noddi Gwobrau Womenspire 2018.

Mae Chwarae Teg, prif elusen cydraddoldeb rhywiol Cymru, unwaith eto yn dathlu cyflawniadau menywod o bob cefndir a chamau mewn bywyd neu mewn gwaith ar hyd a lled Cymru.

Mae Womenspire yn cydnabod menywod ar gyfer pob agwedd ar fywyd, o gyflawniadau personol i gyfraniadau rhagorol, ac rydym am i chi fod yn rhan o'r dathliadau hyn.

Mae Gwobrau Womenspire Chwarae Teg yn arddangos llwyddiannau rhyfeddol menywod ar hyd a lled Cymru a byddant yn ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol.

Darganfyddwch fwy am y digwyddiad yn fan hyn: https://www.cteg.org.uk/womenspire-18/
 

Pwy sy'n dod

Bethan-Cousins
Cyfarwyddwr Busnes Newydd
Beverley-Downes
Cyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu