Abbey Construction yn adeiladu cam 1 o ddatblygiad Ridgeway View gyda chefnogaeth Banc Datblygu Cymru

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
abbey construction

Mae Abbey Construction wedi sicrhau benthyciad datblygu eiddo saith ffigur i helpu i adeiladu 10 cartref pâr, tair ystafell wely, yn yr Ystog, Sir Drefaldwyn. Dyma gam cyntaf datblygiad arfaethedig 30 cartref yn y pentref yng Nghanolbarth Cymru.

Yn ogystal â defnyddio'r holl gyflenwyr ac isgontractwyr lleol, mae'r cwmni eisiau darparu cartrefi i deuluoedd a phrynwyr tro cyntaf yn y gymuned. Cofrestrwyd Cam 1 o ddatblygiad Ridgeway View gyda Chymorth i Brynu Cymru, gydag 8 o'r 10 cartref yn cael eu gwerthu gyda chefnogaeth y cynllun ecwiti a rennir. Bydd Adeiladu Cam 2 -  pedwar cartref 3 gwely arall, yn dechrau yn ddiweddarach yn 2021.

Dywedodd Jason Price, Cyfarwyddwr Abbey Construction: “Fe wnaeth y benthyciad gan dîm eiddo Banc Datblygu Cymru helpu i roi cychwyn ar ein datblygiad Ridgeway View o ansawdd uchel. Rydym yn falch iawn ein bod eisoes wedi sicrhau prynwyr ar gyfer pob un o'r cartrefi - mwyafrif trwy gynllun Cymorth i Brynu Cymru. Rydym yn frwd dros ddarparu llety mawr ei angen, wedi'i adeiladu i'n safonau manwl gywir, yn yr ardal ac edrychwn ymlaen at bartneriaeth barhaus gyda'r Banc Datblygu."

Cafodd y fargen ei strwythuro ar ran y Banc Datblygu gan y Gweithredwyr Datblygu Eiddo Anna Bowen a Dirprwy Reolwr y Gronfa Eiddo, Claire Sedgwick. Dywedodd Anna:

“Mae hwn yn brosiect cyffrous, sy'n darparu cartrefi i'r gymuned leol mewn ardal wledig y mae galw mawr amdani. Mae'r cam cyntaf wedi'i adeiladu i safon uchel ac mae pob cartref bellach wedi sicrhau prynwyr, gyda cham 2 o ddatblygiad Ridgeway View yn dechrau yn ddiweddarach eleni."

Ychwanegodd Claire: “Daeth Jason a Malcolm atom gyda chynllun manwl ac awydd i ddarparu cartrefi ar gyfer y gymuned hon yng Nghanolbarth Cymru. Trwy gydol y datblygiad maent wedi gweithio'n agos gyda chyflenwyr ac isgontractwyr lleol ac wedi cofrestru'r cartrefi gyda Chynllun Cymorth i Brynu Cymru Llywodraeth Cymru, i gefnogi teuluoedd sy'n ceisio mynd ar yr ysgol dai. Mae hwn yn gynllun rhagorol yr ydym wedi bod yn falch iawn o'i gefnogi."

Mae'r tîm eiddo ym Manc Datblygu Cymru yn cynnig ystod o gyllid dyled tymor byr i ddatblygwyr sy'n gweithio ar brosiectau preswyl, defnydd cymysg a masnachol ledled Cymru. Mae benthyciadau'n cychwyn o £150,000 hyd at £5 miliwn y prosiect, gyda thelerau fel arfer yn cael eu sefydlu hyd at 24 mis.

I ddarganfod mwy am fenthyciadau datblygu eiddo gan Fanc Datblygu Cymru ewch i: https://developmentbank.wales/cy/cael-cyllid-busnes/benthyciadau-datblygu-eiddo

I ddarganfod mwy am ddatblygiad Ridgeway View yn yr Ystog ewch i: http://www.jfpcarpentry.co.uk/