Trwy Gronfa Eiddo Cymru, gallwn ddarparu benthyciadau ar gyfer datblygiadau preswyl a defnydd cymysg yng Nghymru.
- Benthyciadau o hyd at 65% o Werth Datblygu Gros (GDG), gan gynnwys hyd at 100% o'r costau adeiladu.
- Maint benthyciadau o £150,000 i £6 miliwn.
- Telerau benthyciadau hyd at 2 flynedd.
Meini prawf buddsoddi
Dim ond prosiectau sy'n seiliedig yng Nghymru y gallwn gefnogi.
Cyn y gallwn eich helpu chi, bydd angen i chi ddarparu'r hyn a ganlyn i ni:
- Copi o'r caniatâd cynllunio yn cadarnhau cymeradwyaeth ar gyfer yr hyn rydych chi'n bwriadu ei ddatblygu.
- Crynodeb o'ch cynlluniau datblygu a chostau rhagamcanol.
- Dadansoddiad o'r Gwerth Datblygu Gros disgwyliedig (hynny yw, y gwerthoedd terfynol unwaith y'i cwblheir).
- Crynodeb o'ch profiad datblygu blaenorol ar eich cyfer chi a'r unigolion allweddol dan sylw.
Eisiau gwybod mwy?
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am gyllid ac eisiau gwybod mwy cysylltwch â ni ac fe allwn ni eich cysylltu chi gydag un o’n harbenigwyr eiddo ni.
Edrychwch ar ganllaw defnyddiol y Cyngor Arweinyddiaeth Adeiladu ar ddod yn ddatblygwr tai bach.
Trwy'r Gronfa Safleoedd Segur, gallwn ddarparu benthyciadau ar gyfer datblygiadau preswyl yng Nghymru na ellir eu symud ymlaen â chyllid datblygu traddodiadol.
- Benthyciadau hyd at 75% o Werth Datblygu Gros, gan gynnwys hyd at 100% o gostau adeiladu.
- Maint benthyciadau o £150,000 i £6 miliwn.
- Telerau benthyciad o hyd at 4 blynedd.
Meini prawf buddsoddi
Dim ond prosiectau sy'n seiliedig yng Nghymru y gallwn gefnogi.
Cyn y gallwn eich helpu chi, bydd angen i chi ddarparu'r hyn a ganlyn i ni:
- Copi o'r caniatâd cynllunio yn cadarnhau cymeradwyaeth ar gyfer yr hyn rydych chi'n bwriadu ei ddatblygu.
- Crynodeb o'ch cynlluniau datblygu a chostau rhagamcanol.
- Dadansoddiad o'r Gwerth Datblygu Gros disgwyliedig (hynny yw, y gwerthoedd terfynol wedi eu cwblhau).
- Crynodeb o'ch profiad datblygu blaenorol ar eich cyfer chi a'r unigolion allweddol dan sylw.
- Esboniad clir o'r materion sydd wedi achosi'r safle i fod yn segur / y rheswm pam na ellir symud ymlaen â chyllid datblygu traddodiadol - er enghraifft.
Eisiau gwybod mwy?
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am gyllid ac eisiau gwybod mwy cysylltwch â ni ac fe allwn ni eich cysylltu chi gydag un o’n harbenigwyr eiddo ni.
Rydym yn cynnig gostyngiad o hyd at 2% ar ffioedd benthyca datblygiadau preswyl os caiff yr holl feini prawf gwyrdd canlynol eu hymgorffori mewn adeiladau newydd, neu ostyngiad llai wrth fodloni un neu fwy:
- EPC Gradd A / statws Passivhaus
- Strwythurau nad ydynt yn goncrid
- System wresogi tanwydd di-ffosil
Darganfyddwch fwy am ein Cymhelliant Cartrefi Gwyrdd
Drwy gyfrwng Cronfa Eiddo Masnachol Cymru gallwn ddarparu cyllid ar gyfer swyddfa newydd a datblygiadau diwydiannol yng Nghymru.
- Maint benthyciadau o £250,000 i £5 miliwn
- Telerau benthyca hyd at 5 mlynedd
- Mae cynlluniau hapfasnachol a chynlluniau nad ydynt yn rhai hapfasnachol (h.y. gyda neu heb ragosodiadau / gyn-werthiannau) yn gymwys
Gallwn hefyd ddarparu elfen o gyllid grant ochr yn ochr â'r benthyciadau ad-daladwy i helpu i fynd i'r afael â bylchau hyfywedd ar gynlluniau cymwys.
Meini prawf buddsoddi
Canolbwyntir ein cefnogaeth ar brosiectau swyddfa a diwydiannol newydd wedi'u lleoli yng Nghymru.
Cyn y gallwn eich helpu, bydd angen i chi roi'r canlynol i ni:
- Cyfeiriad yr eiddo rydych chi'n bwriadu ei ddatblygu
- Crynodeb o'ch cynlluniau datblygu a'ch costau arfaethedig
- Manylion unrhyw ragosodiadau a / neu gyn-werthiannau
- Dadansoddiad o amcangyfrif yr Incwm Rhent a Gwerth Datblygu Gros y prosiect ar ôl ei gwblhau
- Crynodeb o brofiad datblygu blaenorol ar gyfer yr unigolion allweddol dan sylw
Eisiau gwybod mwy?
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am gyllid ac eisiau gwybod mwy cysylltwch â ni ac fe allwn ni eich cysylltu chi gydag un o’n harbenigwyr eiddo ni.