Adroddiad ar economi Cymru yn dangos bod yr hinsawdd i gwmnïau bach yng Nghymru “yn parhau i fod yn anodd”

Giles-Thorley
Prif Weithredwr
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes a strategaeth
Cyllid a chyfrifo
Ariannu
Twf

Mae Dirnad Economi Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22, a rhagwelir dyfodol heriol ar unwaith i fusnesau sy’n gweithredu yng Nghymru.

Mae Dirnad Economi  Cymru yn gydweithrediad ymchwil pwrpasol rhwng Banc Datblygu Cymru, Ysgol Busnes Caerdydd a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol sy’n rhoi cipolwg a dadansoddiad ar economi Cymru.

Mae’r adroddiad – y pedwerydd adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd gan Dirnad Economi  Cymru – yn dadansoddi effaith blwyddyn anodd i economi Cymru wrth i fentrau bach a chanolig (BBaCh) ymdrin â chwyddiant, cadwyni cyflenwi dan bwysau, prinder llafur a chynnydd mewn costau ynni.

Mae’r adroddiad, a gynhyrchwyd gan Ysgol Busnes Caerdydd, yn rhoi rhagolwg manwl o’r economi ehangach a rhagolygon busnesau Cymru wrth i ddaroganwyr ragweld y bydd dirwasgiad yn y DU.

Mae rhagolygon twf byd-eang wedi'u diwygio i lawr ar gyfer 2022 a 2023, yn dilyn cwymp o 0.3% yng Nghynnyrch Domestig Gros y DU ym mis Ebrill, a chyda buddsoddiad busnes naw y cant yn is na'r lefel cyn-bandemig.

Mae chwyddiant yn bryder hyd yn oed yn fwy i fusnesau bach yng Nghymru o’i gymharu â’u cymheiriaid ar draws gweddill y DU, ac ym mis Mehefin 2022 gwelwyd bron i 56% o BBaChau Cymru yn disgyn i gategorïau gofalus a risg uchel o gymharu â 53.7% ym mis Mai 2021.

Tra bod adferiad Covid-19 ac effaith y rhyfel yn yr Wcrain yn parhau i roi pwysau ar fusnesau, gwelodd rhai sectorau berfformiad gwell ac arwyddion o optimistiaeth.

Gwellodd hyder busnesau Cymru yn gynnar yn 2022, a thyfodd allforion bwyd a diod o Gymru ychydig dros 16%. Mae buddsoddiad ecwiti hefyd wedi gweld twf mawr yng Nghymru, gyda chyfanswm gwerth buddsoddiad ecwiti yn cynyddu 44% yn 2021.

Nododd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (NIESR) fod GYG Cymru wedi rhagori ar y lefelau cyn-bandemig a disgwylir iddo dyfu’n gyflymach na chyfartaledd y DU erbyn 2023 Ch4.

Buddsoddodd Banc Datblygu Cymru £109m yn 2021/22, gan greu mwy na 2,600 o swyddi gydag effaith net amcangyfrifedig o fwy na £32,000 wedi’i ychwanegu at GYG Cymru ar gyfer pob swydd a ddiogelir neu a grëwyd.

Dywedodd Max Munday, Cyfarwyddwr Uned Ymchwil Economi Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae’r adroddiad blynyddol yn dangos bod yr hinsawdd weithredol o amgylch cwmnïau bach yng Nghymru yn parhau i fod yn anodd; mae busnesau’n wynebu costau cynyddol, gyda rhai yn wynebu heriau o ran denu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt mewn marchnadoedd llafur lleol tynnach.

“Mae tystiolaeth sy’n dangos bod nifer cynyddol o fusnesau’r DU yn methu â chael benthyciadau yn peri pryder arbennig – yn ogystal â’r gostyngiad yn hyder busnesau yn ail chwarter eleni.”

Dywedodd Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru: “Er bod yr adroddiad blynyddol a gynhyrchir gan Dirnad Economi Cymru yn sobreiddio rhywun wrth ei ddarllen, rwy’n falch o nodi’r rôl gefnogol a chwaraeir gan y Banc Datblygu wrth helpu a diogelu busnesau yng Nghymru, gyda £109m wedi’i fuddsoddi yn 2021/22.

“Rhan o’n rôl yw rhoi sefydlogrwydd i fusnesau Cymru mewn cyfnod ansicr, a bydd yr adroddiad yn llywio sut rydym yn parhau â’n gwaith i gefnogi bron i 3,000 o gwsmeriaid ledled Cymru.

“Er bod yr adroddiad hefyd yn nodi nifer cynyddol o fusnesau sy’n wynebu heriau llif arian, gwelodd y flwyddyn ariannol ddiwethaf awydd cryf am yr ystod eang o gymorth buddsoddi rydym yn ei gynnig, ac mae gennym y cyfalaf sydd ei angen i gefnogi cwsmeriaid presennol a newydd.

“Byddwn yn annog busnesau sydd â diddordeb yn y cymorth rydym yn ei gynnig i gysylltu.”