Allbryniant rheolwyr yn ysgogi ehangiad i Deckrite

Claire-Sullivan
Rheolwr Rhanbarthol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Twf
Deckrite

Mae Deckrite o Lanbedr Pont Steffan yn ehangu ei ystod o wasanaethau i berchnogion tai yn dilyn allbryniant rheolwyr a ariannwyd yn rhannol gan fenthyciad chwe ffigwr gan Fanc Datblygu Cymru.

Fel busnes sy’n eiddo i’r teulu, sefydlwyd Deckrite gyntaf gan John Thomas a’i fab Barry yn 2010. Yn draddodiadol mae’r cwmni wedi darparu decin, ffensys a balwstradau o ansawdd uchel ar gyfer carafanau. Mae'r holl gynnyrch yn cael eu gwneud yn y DU ac yn 100% ailgylchadwy.

Ymunodd Matthew Parsons fel Rheolwr Gwerthiant yn 2014 a thyfodd y sylfaen cwsmeriaid yn gyflym, gan helpu Deckrite i ddod yn gyflenwr a argymhellir ar gyfer Parkdean Resorts, Haven a Bourne Leisure yng Nghanolbarth a De Cymru. Gyda thîm o wyth ac is-gontractwyr rheolaidd, mae Deckrite bellach yn ehangu i'r farchnad eiddo domestig gyda Matthew wedi cymryd yr awenau oddi wrth John a Barry Thomas.

Dywedodd John Thomas: “Mi ddechreuodd Barry a minnau’r busnes ond mae Matthew wedi bod yn rhan annatod o’r tîm, gan gymryd mwy a mwy o gyfrifoldeb am redeg y busnes ynghyd â phob agwedd ar wasanaeth cwsmeriaid. Wrth i mi nesáu at ymddeoliad a Barry yn dechrau ymwneud mwy â busnesau eraill, roedd yn gwneud synnwyr i weithio gyda Matthew i reoli ein hymadawiad mewn ffordd sy’n diogelu’r tîm a’r ansawdd y mae ein cwsmeriaid wedi dod i’w ddisgwyl gan Deckrite. I ni, mae’n rhoi sicrwydd inni fod y busnes mewn dwylo diogel a bod yna ddyfodol cyffrous o’n blaenau.”

 Dywedodd y Cyfarwyddwr Matthew Parsons: “Mae Deckrite yn fusnes gwych gyda thîm rhagorol sydd i gyd yn deall pwysigrwydd dylunio a gosod cynnyrch o’r ansawdd uchaf i’n cwsmeriaid. Rwy'n falch iawn o gael y cyfle nawr i ddatblygu ein gwasanaethau drwy hefyd gynnig decin, ffensys a balwstradau ar gyfer y farchnad eiddo domestig yng Nghanolbarth a De Cymru.

“Mae'r cyllid gan y Banc Datblygu wedi ein helpu i gwblhau'r pryniant gan reolwyr a'n paratoi ar gyfer twf yn y dyfodol; gan ddefnyddio ein gwybodaeth am y busnes a’r farchnad i wireddu ein gwir botensial fel tîm.”

Clare Sullivan yw Rheolwr Rhanbarthol y Banc Datblygu. Bu’n gweithio ar y fargen ochr yn ochr â’r Swyddog Buddsoddi, Ashley Jones. Dywedodd Clare: “Mae Deckrite yn fusnes teuluol sefydledig ac uchel ei barch sy’n gweithredu mewn marchnad benodol iawn yng Nghanolbarth a De Cymru ond eto mae cyfle da i weld y busnes yn tyfu. Rydym yn falch bod ein cyllid wedi galluogi Matthew i ymgymryd â’r busnes a chreu dyfodol cynaliadwy hirdymor i’r tîm ehangach.”

Daeth y cyllid ar gyfer Deckrite o Gronfa Busnes Cymru gwerth £216 miliwn a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael gyda thymhorau’n amrywio o un i saith mlynedd ar gyfer busnesau bach a chanolig (y rhai sydd â llai na 250 o weithwyr) sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, neu sy’n barod i adleoli i Gymru.