Angylion Buddsoddi Cymru a Camau Nesaf yn sbarduno buddsoddiad mewn busnesau yng Ngogledd Cymru

Steve-Holt
Cyfarwyddwr Angylion Buddsoddi Cymru
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Angylion busnes
Twf
Busnesau technoleg

Bydd busnesau sydd newydd eu sefydlu yng Ngogledd Cymru yn elwa o gydweithrediad newydd rhwng Angylion Buddsoddi Cymru a’r darparwr mentora busnes Camau Nesaf.

Fel yr angylion busnes mwyaf yng Nghymru, mae Angylion Buddsoddi Cymru yn rhan o Fanc Datblygu Cymru ac mae ganddo dros 300 o fuddsoddwyr cofrestredig yn ei rwydwaith.

Gan weithio gyda Camau Nesaf yng Ngogledd Cymru, bydd Angylion Buddsoddi Cymru yn cynyddu’r gweithgarwch i gynnig cyfle i fwy o fusnesau ac entrepreneuriaid newydd gael cymorth gan fuddsoddwyr arweiniol yr angylion busnes. Ar ben hynny, byddant yn gallu cael gafael ar y Gronfa Angylion Cymunedol Cymru gwerth £8 miliwn ar gyfer arian cyfatebol.

Steve Holt yw Cyfarwyddwr Angylion Buddsoddi Cymru. Dywedodd: “Drwy weithio gyda busnesau newydd ym maes technoleg, mae Camau Nesaf wedi tyfu o Glwb Technoleg Môn, grŵp o angylion ac entrepreneuriaid o Ynys Môn.

“Mae ganddynt bellach rwydwaith o fentoriaid a chynghorwyr sy’n datblygu cynlluniau uwchraddio a strategaethau parodrwydd i fuddsoddwyr felly maent mewn sefyllfa dda i weithio gyda ni i ddarparu buddsoddiad preifat ar gyfer busnesau newydd a busnesau sy’n datblygu yng Ngogledd Cymru. Byddant yn defnyddio eu gwybodaeth, eu rhwydweithiau a’u harbenigedd i ffurfio syndictiau buddsoddi a chanfod cyfleoedd mewn sectorau strategol bwysig yng Ngogledd Cymru. Yna bydd ein cronfa buddsoddi ar y cyd yn darparu arian cyfatebol sydd, i bob pwrpas, yn dyblu’r effaith.”

Cafodd Clwb Technoleg Môn ei lansio’n wreiddiol gan yr entrepreneuriaid lleol, Ben Scholes a Nick Dryden. Mae’r ddau bellach yn gweithio’n agos gyda’r angel busnes arweiniol Huw Bishop fel cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Camau Nesaf.

Dywedodd Huw Bishop: “Mae Gogledd Cymru yn gymuned wych o bobl sy’n chwilio’n gyson am ffyrdd o sianelu eu creadigrwydd a’u brwdfrydedd. Gwelwn gyfleoedd cadarn i fuddsoddwyr, yn ogystal â busnesau newydd, yn enwedig wrth ddatblygu mwy o syndictiau, sef y patrwm presennol mewn strategaethau angylion buddsoddi ledled y DU.

“Mae’r syndicet angylion gyda’r gallu i gyd-fuddsoddi ynghyd â grwpiau eraill a sefydliadau ariannol yn gyfrwng pwerus i alluogi twf a chynyddu busnesau technoleg. Mae dyddiau angylion buddsoddi unigol sy’n tyfu cyfleoedd busnes ar eu pen eu hunain heb gefnogaeth buddsoddwyr eraill o’r un anian yn lleihau’n gyflym – y dyddiau hyn, mae’n ymwneud â rhannu gwybodaeth a chyllid wedi’i fuddsoddi ar y cyd er mwyn creu platfform cadarn ar gyfer busnesau newydd. Mae rhannu risg ariannol drwy ddull syndicet hefyd yn gweithio i angylion mewn sefyllfa economaidd ansicr.

“Mae syndicet angylion yn ennill cryfder gan amrywiaeth eang o fuddsoddwyr. Mae hyn yn amrywio o’r rheini sy’n buddsoddi am y tro cyntaf i fuddsoddwyr ‘gwerth net uchel’ profiadol sy’n ceisio ehangu eu portffolio. Rydw i wrth fy modd yn helpu busnesau lleol i dyfu ac rydw i’n croesawu dulliau gweithredu gan fuddsoddwyr ar bob lefel – rydyn ni’n agored i fusnes ac rydyn ni’n awyddus i siarad â’r ddau entrepreneur sy’n ceisio datblygu strategaethau buddsoddi ar gyfer twf ac angylion sydd â diddordeb mewn cysylltu â buddsoddwyr o’r un anian.”

Ben Scholes yw cyd-sylfaenydd a Phrif Weithredwr Papertrail ym Miwmares. Ychwanegodd: “Rydw i wedi datblygu fy musnes drwy gyfres o rowndiau buddsoddi dros yr wyth mlynedd diwethaf. Y rheswm dros y cyfle i ehangu’r sylfaen gyfranddalwyr a sicrhau’r un buddsoddiad yn ein rownd diweddaraf oedd Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru a’r arian cyfatebol a ddarparwyd ar gyfer ein syndicet angylion. Fe wnaeth Huw chwarae rhan allweddol yn hyn ac mae ganddo lif o gyfleoedd cyllido yn y dyfodol.

“Efallai fod y sefyllfa economaidd yn ansicr, ond mae digon o awydd o hyd i ddatblygu a buddsoddi yng Ngogledd Cymru. Bydd Camau Nesaf ac Angylion Buddsoddi Cymru yn cydweithio i helpu busnesau newydd eraill i elwa o fuddsoddiad a chefnogaeth gan angylion busnes. Mae’n sicr wedi ein helpu i gael Papertrail lle mae heddiw.”

Mae Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru, sy’n werth £8 miliwn, yn rhoi ffynhonnell allweddol o gyllid amgen i fusnesau Cymru drwy annog mwy o fuddsoddiad gweithredol gan angylion. Mae’r gronfa bum mlynedd yn rhoi cefnogaeth i greu syndictiau a rhwydweithiau angylion ledled Cymru drwy ddarparu benthyciadau ac ecwiti hyd at £250,000 i fuddsoddwyr sy’n chwilio am gyd-fuddsoddiad.