Angylion yn uno i drawsnewid hyfforddiant yn y gweithle

Tom-Preene
Rheolwr Gweithredol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Angylion busnes
Cynllunio busnes
Ecwiti
Mentrau tech
Technoleg
Academii

Mae Banc Datblygu Cymru a syndicet o naw angel busnes yn cefnogi busnes newydd yng Nghaerdydd gyda buddsoddiad ecwiti o £370,000 a fydd yn helpu i drawsnewid hyfforddiant yn y gweithle.

Mae'r prif fuddsoddwr Andrew Diplock wedi arwain yr ymdrech hwn i godi arian sy'n cynnwys £185,000 gan angylion busnes a £185,000 o arian cyfatebol o Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru y Banc Datblygu ar gyfer cwmni e-ddysgu Academii.

Wedi'i leoli yn Tramshed Tech, mae Academii yn cael ei arwain gan Adrian Coles a Steve Lanigan. Steve Lanigan arweiniodd y gwaith o brynu ALS People o Gaerffili gyda chefnogaeth y Banc Datblygu. Cynyddodd y gyfradd redeg o £13 miliwn yn 2018 i £55 miliwn cyn prynu eu cyfran o 20% yn ôl yn 2022.

Gyda sylfaen cleientiaid sydd eisoes yn cynnwys cwmnïau o’r radd flaenaf, nod Academii yw chwyldroi dysgu yn y gweithle a grymuso talent i ffynnu gyda darpariaeth ddysgu ar-lein ac ymdrochol sy’n helpu i uwchsgilio a datblygu gweithwyr nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol gan y darpariaethau presennol.

Mae swit cynnwys Academii yn defnyddio Realiti Estynedig a Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol, gan gwmpasu pynciau fel iechyd a diogelwch, sgiliau meddal, arweinyddiaeth, lles a gweithgynhyrchu darbodus.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Adrian Coles: “Ar ôl bron i ddau ddegawd ym maes gweithgynhyrchu, rwyf wedi gweld yn uniongyrchol sut mae grymuso talent wedi helpu sefydliadau i ffynnu wrth i ni symud tuag at Ddiwydiant 4.0. Trwy gynnig dysgu digidol trwy ymyriadau byr, ymdrochol a deniadol, rydym yn galluogi arweinwyr diwydiant i wella galluoedd gweithwyr a'u heffeithlonrwydd busnes.

“Yn ogystal â chyflymder dysgu llawer cyflymach, dangoswyd bod hyfforddiant rhith-realiti hefyd yn hyrwyddo mwy o ffocws, gan roi gwell i gadw gwybodaeth a gwell dealltwriaeth i weithwyr. Ein nod yw galluogi sefydliadau i ddod yn lleoedd gweithio uchelgeisiol trwy gynnig cyfleoedd i’w pobl ffynnu, gan ddatgloi talent gudd, a chreu llif o gydweithwyr medrus a llawn cymhelliant.”

Ychwanegodd Steve Lanigan: “Mae Banc Datblygu Cymru a syndicet yr Angylion rydym wedi dod at ei gilydd yn rhannu gweledigaeth Academii o yrru ffyniant economaidd, gan roi cyfle i bawb a grymuso llwyddiant. Mae'r sylfaen wybodaeth gyfunol hon a'r gwerthoedd a rennir yn darparu profiad ychwanegol graddedig i alluogi Academii i ehangu a thyfu.``

Dywedodd y prif fuddsoddwr, Andrew Diplock: “Mae’n hanfodol bod sefydliadau’n cymryd agwedd fwy cynaliadwy, gan ddefnyddio hyfforddiant i fynd i’r afael â’u bylchau sgiliau o’r tu mewn a lleihau eu gwariant yn y tymor hir. Mae Steve, Adrian a’r tîm wedi datblygu profiad dysgu rhyngweithiol, atyniadol ac ymdrochol i ddiogelu cynnwys at y dyfodol ac arwain y farchnad. Mae'n gynnig cymhellol gyda model graddadwy iawn sy'n ei wneud yn ddeniadol i fuddsoddwyr. Ar ben hynny, mae llwyddiant blaenorol Steve gydag ALS People yn golygu bod ei hanes o lwyddiant yn ei roi mewn sefyllfa dda i dyfu Academii.”

Tom Preene yw Rheolwr Gweithrediadau Angylion Buddsoddi Cymru. Dywedodd: “Cenhadaeth  Academii yw gwthio ffiniau hyfforddiant traddodiadol a datblygu sgiliau. Mae eu cyrsiau’n cael eu creu gan ddatblygwyr dysgu profiadol, gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, tactegau arfer gorau, ac adborth dysgwyr i gynnig profiadau dysgu trochi ac effeithiol sy’n addas ar gyfer gweithlu’r dyfodol. Rydyn ni’n falch iawn o gael y cyfle i weithio gyda’r syndicet hwn o angylion busnes a chefnogi Steve eto gyda’i fenter ddiweddaraf.”

Mae Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru, sy’n werth £8 miliwn, yn rhoi ffynhonnell allweddol o gyllid amgen i fusnesau Cymru drwy eu hannog i fuddsoddi’n fwy gweithredol gan angylion. Mae’r gronfa bum mlynedd yn cefnogi creu syndicetiau a rhwydweithiau angylion ledled Cymru drwy ddarparu benthyciadau ac ecwiti hyd at £250,000 i fuddsoddwyr sy’n chwilio am gyd-fuddsoddiad.