Anturiaethau oddi ar y ffordd i'r anabl

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Sion Pierce

Mae cadair olwyn newydd chwyldroadol sydd wedi cael ei chynllunio a'i chynhyrchu yn Ninbych yn barod i wella bywydau pobl anabl sydd angen mynd oddi ar y ffordd.

Mae'r gadair olwyn wedi cael e chynhyrchu gan Off-Road Engineering Limited, ac mae'r 'HexHog' wedi cael ei dylunio i ddod â nodweddion swyddogaethol cadair olwyn a cherbyd sy'n gallu gyrru ar bob math o dirwedd at ei gilydd. Mae'n cynnwys 'siasi / chassis' hyblyg, sy'n cadw'r chwe olwyn mewn cysylltiad â'r ddaear - hyd yn oed ar y tir o'r math mwyaf garw.

Ac yntau o deulu ffermio, fe ddechreuodd y peiriannydd Sion Pierce y syniad wrth astudio peirianneg ym Mhrifysgol Harper Adams a chlywed am ffermwr anabl nad oedd yn gallu cael mynediad at ei dir i gyd yn ddiogel. Mae bellach wedi sicrhau benthyciad o £25,000 gan Fanc Datblygu Cymru fel cyfalaf gweithredol i gwrdd â gofynion archebu o bob rhan o Ewrop.

Esboniodd Sion Pierce: "Mae cadeiriau olwyn sy'n honni eu bod yn addas ar gyfer  'pob tirwedd' yn addas ar gyfer arwynebau gwastad neu fwdlyd ond mae'r rhain yn cael trafferth gyda thir cefn gwlad garw. Yn syml, mae'r Hexhog yn gerbyd symudedd unigryw sy'n newid bywydau. O unigolion preifat sy'n mwynhau bywyd awyr agored i weithwyr fferm sydd wedi colli eu gallu i barhau i weithio yn sgil damwain, mae'r Hexhog yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un ag anabledd corfforol sydd angen gallu beic cwad ond eu bod yn ddibynnol ar gadair olwyn."


O ffermio i bysgota, saethu neu yn syml er mwyn gallu nesáu at natur, mae'r Hexhog yn rhoi annibyniaeth a rhyddid ar y tirweddau anoddaf. Gyda 'siasi / chassis' hyblyg gyda diamedr 20 modfedd ac olwynion sy'n chwe modfedd o led, mae'r dyluniad gwydn a'r adeiladwaith o safon yn golygu y bydd y gadair addas ar gyfer pob tirwedd yn gallu goddef mwd, dwr, traethau tywodlyd, eira neu rew. Mae ganddo batent o'r DU ac UDA ar gyfer cerbyd symudedd unigryw.
Mae'r Hexhog yn cael ei bweru gan fatri lithiwm-ion ac mae ganddo gyflymder uchaf o 9mya (15cya) sy'n golygu ei fod yn cydymffurfio â rheoliadau dyfais symudedd Ewropeaidd. Gyda phrisiau'n dechrau o £18,000, mae'n gost effeithiol iawn ac mae'r  gofynion cynnal a chadw yn gyfyngedig.

Ychwanegodd Sion: "Mae'r cymorth gan y banc datblygu wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Fel busnes newydd sy'n dechrau heb sicrwydd, doeddem ni ddim yn bodloni'r meini prawf benthyca confensiynol. Mae eu ffydd yn ein cynnyrch a'n gallu i fynd ag o i'r farchnad yn golygu bod gennym bellach y llif arian i ariannu ein gwaith gweithgynhyrchu cychwynnol. Rydyn ni mor ddiolchgar eu bod wedi cael yr hyder i gymryd y naid ffydd oedd yn angenrheidiol i gefnogi ein gweledigaeth."

Mae Heather Abrahams yn Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru. Ychwanegodd: "Mae Sion wedi treulio pum mlynedd yn profi a datblygu'r Hexhog ar y llethrau a'r dirwedd fynyddig anoddaf ac o dan amgylcheddau eithafol. Dyma gadair olwyn y gallwch ei gyrru oddi ar y ffordd o ddifri sy'n cynnig mynediad digynsail i dir eithafol.

"Rydym bob amser yn falch iawn o gefnogi busnesau sy'n cael eu tyfu yn y cartref ac sy'n cael eu rhedeg gan entrepreneuriaid lleol sy'n rhannu ein hymrwymiad i gefnogi economi Cymru. Mae gan Off-road Engineering botensial rhyngwladol gwych ac rydym wrth ein bodd gweld yr archebion sy'n dod i mewn yn barod am yr Hexhog."