Mae App sydd wedi’i ddylunio i adfywio, addasu a thrawsffurfio strydoedd mawr ar draws y wlad wedi derbyn buddsoddiad o dros £200,000.
Mae NearMeNow wedi derbyn cyd-fuddsoddiad ecwiti, wedi’i arwain gan Fanc Datblygu Cymru, sydd wedi buddsoddi £150,000, gyda £60,000 pellach wedi’i dderbyn gan fuddsoddwyr preifat.
Mi fydd y buddsoddiad yn galluogi’r busnes cychwynnol o Gaerffili, i ddatblygu peilot o’i ap cwbl ddwyieithog, Cymraeg a Saesneg, sydd a’r bwriad o droi strydoedd mawr yn ddigidol.
Victoria Mann, cyn-athrawes fathemateg a dadansoddwr risg gynt, yw’r person tu ôl i’r ap. Fe gafodd hi’r syniad pan roedd hi’n eistedd mewn siop trin gwallt un bore ganol yr wythnos, lle'r oedd pedwar aelod o staff a thair cadair wag. Meddai “Meddyliais: mae’n rhaid bod yna ffordd o lenwi’r cadeiriau yna a denu cwsmeriaid newydd ar yr un pryd.”
“Mae’r cynnydd mewn cystadleuaeth ar-lein wedi rhoi ein strydoedd mawr ni o dan wasgedd, ond eto, mae nifer o bobl dwi’n siarad â nhw yn dal yn awyddus i brynu’n lleol a defnyddio siopau a chyflenwyr rhanbarthol. Mae NearMeNow yn darparu datrysiad digidol, cost-effeithiol i helpu’r busnesau hynny i hysbysebu ac ymgysylltu’n fwy effeithiol â chwsmeriaid a chyd-weithio’n fwy effeithlon gyda busnesau eraill.”
Mae NearMeNow yn gobeithio dod â syniadau, sgiliau a thechnoleg ddigidol newydd i hybu strydoedd mawr ar draws Cymru a’r DG, trwy ddatrys problem gymdeithasol ac economaidd byd-real. Mae NearMeNow yn bwriadu lansio peilot ei ap yn y Bontfaen, ym Mro Morgannwg yn ddiwedd y Gwanwyn.
Dywedodd, Carl Griffiths, Rheolwr Cronfa Sbarduno Technoleg Banc Datblygu Cymru: "Mae NearMeNow yn annog cydweithredu ar y stryd fawr, a fydd yn cefnogi sectorau a chymunedau manwerthu ffyniannus. Yn ystod cyfnod pan fo cystadleuaeth gynyddol ar-lein, mae angen i'r sector manwerthu 'brics a morter' fel petai roi cynnig ar bethau newydd a chynnig apêl newydd i'w cwsmeriaid. Mae Vicky a'r tîm wedi creu cynnyrch sy'n diwallu'r angen hwn ac yn ychwanegu gwerth go iawn i brofiad siopa'r cyhoedd yn gyffredinol. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at weld sut mae NearMeNow yn perfformio yn y peilot sydd i ddod."
Mae’r busnes wedi derbyn buddsoddiad ecwiti oddi wrth Thud Media, sydd hefyd yn bartner digidol a brandio i NearMeNow. Cafwyd buddsoddiad gan Martin Greenhalgh sy’n ymgymryd â rôl Prif Swyddog Technoleg a Sara Lynn Jones sy’n ymuno â NearMeNow fel Prif Swyddog Gweithrediadau.
Dywedodd Jon Rennie, Cyfarwyddwr Rheoli Thud Media a BAIT Studio: "Fel stiwdio greadigol gydag arbenigedd rhyngweithiol a dylunio, roedd hwn yn gyfle delfrydol i helpu i gyflwyno busnes newydd a chyffrous i'r farchnad a gwireddu gweledigaeth Victoria i gefnogi siopau a gwasanaethau lleol."
Dywedodd Victoria am y buddsoddiad: “Rydw i wedi bod yn gweithio ar y syniad am ychydig o flynyddoedd nawr, felly mae derbyn cefnogaeth gan fuddsoddwyr cryf ynghyd a’r Banc Datblygu yn wych. Mae ein peilot bron yn barod i fynd a ‘da ni’n ysu i helpu busnesau’r stryd fawr leol i gynyddu nifer eu cwsmeriaid, gwaredu gwastraff a rhoi hwb i’r llinell gwaelod.”
Gyda swyddfa yn ICE Cymru yng Nghaerffili, derbyniodd NearMeNow gymorth rhaglenni Accelerator TownSquare, Entrepreneurial Spark NatWest a Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru ar gyfer busnesau gyda photensial twf uchel.