Ar y ffordd i sero net gyda Jaga Brothers

Conrad-Price
Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Twf
Marchnata
Busnesau technoleg
Technoleg
Jaga Brothers

Mae cwmni trafnidiaeth ym Magwyr wedi dechrau ar ei daith tuag at sero net gyda benthyciad gwyrdd o £55,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Sefydlwyd Jaga Brothers Transport gan y Cyfarwyddwr James Hill yn 2006, ac mae’n cyflogi 44 o bobl ac yn gweithredu 45 o lorïau a 130 o ôl-gerbydau o’i ganolfan ym Mharc Ewropeaidd Gwent. Mae’r cleientiaid yn cynnwys Celsa Steel UK. Gydag ymrwymiad i leihau ôl troed carbon, mae’r cwmni wedi buddsoddi mewn 68 o baneli solar a fydd yn arbed 5.14t o allyriadau CO2 ac yn arwain at £25,000 yn llai o gostau ynni blynyddol. Mae’r system 28kW wedi cael ei gosod gan Tewdric Energy.

Dywedodd y Cyfarwyddwr James Hill: “Mae’r buddsoddiad hwn mewn paneli solar yn rhan o becyn ehangach o fesurau i wella ein hôl troed carbon ac i ostwng ein hallyriadau. Rydym yn gweithredu amrywiaeth o dryciau Euro VI ac adblue, sydd i gyd yn lleihau ein hôl troed carbon ac yn helpu i warchod yr amgylchedd. Mae’r tryciau hyn hefyd yn ein helpu i fod yn fwy effeithlon o ran tanwydd ac rydym wedi buddsoddi mewn teiars Michelin sy’n cynnig rhychwant oes hirach.

“Mae’r benthyciad gan y Banc Datblygu wedi ein galluogi i fuddsoddi mewn paneli solar a fydd yn rhoi costau ynni sefydlog i ni am y 25 mlynedd nesaf ac yn darparu digon o bŵer i oleuo ein hiard yn y nos diolch i’r storfa fatri. Bydd y ffordd tuag at sero net yn dipyn o daith ond mae cymorth gan y Banc Datblygu yn golygu ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu nawr i ostwng ein hallyriadau ac i leihau ein hôl troed carbon.”

Giles Phelps yw Sylfaenydd Tewdric Energy. Dywedodd: “Mae Jaga Brothers yn enghraifft wych o fusnes yng Nghymru sy’n gallu cymryd y camau cyntaf tuag at fod yn ‘wyrddach’ beth bynnag fo’i sector neu ei faint. Mae ganddyn nhw ffordd i fynd cyn bod yn garbon niwtral ond mae pob eiliad yn helpu a gyda chymorth y Banc Datblygu maen nhw nawr yn gallu edrych ymlaen at fwynhau costau ynni is a dechrau ar eu taith tuag at sero net.”

Dywedodd Conrad Price, Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol gyda Banc Datblygu Cymru: “Mae ein Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd yn berffaith ar gyfer cwmnïau ac unig fasnachwyr yng Nghymru sydd am gyflawni prosiectau datgarboneiddio ac effeithlonrwydd ynni. Gallwn ni gynnig cyfraddau llog gostyngol ar fenthyciadau hyd at £1.5 miliwn ac rydym eisiau i fwy o fusnesau fel Jaga Brothers fanteisio ar y cynllun a chael y cymorth sydd ei angen arnynt i leihau eu costau ynni, gostwng allyriadau a datgarboneiddio eu gweithrediadau.”

Mae’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd yn cefnogi busnesau i fuddsoddi mewn technoleg adnewyddadwy, gwella ffabrig eu hadeiladau, ac uwchraddio systemau er mwyn lleihau’r defnydd o ynni a lleihau gwastraff. Yn ogystal â darparu benthyciadau, mae’r cynllun hefyd yn galluogi busnesau i gael gafael ar gyngor ar ddatgarboneiddio.