Mae Rhian Elston yn Gyfarwyddwr Buddsoddi ar gyfer Banc Datblygu Cymru. Mae hi'n dweud bod tîm Cymru ar y daith i gyrraedd net-sero.
Yma ym Manc Datblygu Cymru, rydym ar genhadaeth i ddatgloi potensial economi Cymru trwy gynyddu'r ddarpariaeth o gyllid effeithiol cynaliadwy yn y farchnad.
Doeddem ni ddim angen COP26 mewn gwirionedd i ddweud wrthym am bwysigrwydd cyllid cynaliadwy ond mae'r uwchgynhadledd fyd-eang wedi ychwanegu at ein cyffro ynghylch y cyfleoedd ar gyfer yr economi werdd yng Nghymru. Dyna pam rydym yn falch ein bod wedi cefnogi cymaint o gwmnïau sy'n profi bod effeithlonrwydd a chynaliadwyedd yn gwneud synnwyr busnes da yn ogystal â diogelu'r amgylchedd.
A dweud y gwir, rydy’ ni ymrwymo'n llwyr i fynd i'r afael â'r argyfwng newid yn yr hinsawdd. Ar ôl addo ein cefnogaeth i Gynllun Net Sero Llywodraeth Cymru, rydym wedi nodi'r ffyrdd y byddwn yn parhau i gyflawni ein cynlluniau mewnol ein hunain i gyrraedd net sero yn ogystal â defnyddio Dirnad Economi Cymru i archwilio argymhellion polisi a chynhyrchion i lywio'r trawsnewid i economi carbon isel.
Yn holl bwysig, mae cyllid dyled ac ecwiti ar gael i'r rheini sy'n datblygu cynhyrchion a gwasanaethau arloesol a fydd yn helpu allyriadau is. Rydym yn ffodus bod gennym fentergarwyr technoleg gwych a busnesau cam cynnar sydd wir yn rhoi Cymru ar y map byd-eang.
Er enghraifft, fel cyllidwyr ecwiti FuelActive, gwelwn sut mae eu technoleg chwyldroadol yn sicrhau bod y tanwydd glanaf sydd ar gael yn cael ei gyflenwi i linellau tanwydd peiriannau disel a dyma'r llinell amddiffyn gyntaf yn erbyn disel halogedig; - mater byd-eang gyda chanlyniadau trychinebus. Trwy weithredu ar danwydd glân, mae injannau yn llosgi 5% yn llai o danwydd ac o ganlyniad yn lleihau allyriadau CO2 5%. Fel stori lwyddiant technoleg glân fyd-eang, gallai capasiti FuelActive ddylanwadu'n gadarnhaol ar berfformiad peiriannau disel, a fydd yn cael ei ddefnyddio am y 30 mlynedd nesaf, gael effaith wirioneddol ar yr amgylchedd.
Mae mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yn gyfrifoldeb yr ydym i gyd yn ei rannu ond, yn ddealladwy, yn aml nid oes gan berchnogion busnesau bach y gallu i ddechrau'r siwrnai tuag at net-sero. Yma yn y Banc Datblygu rydym wrthi'n cefnogi ein cwsmeriaid i wella a lleihau eu heffaith amgylcheddol trwy weithio'n agos gyda'n cydweithwyr yn Busnes Cymru lle mae eu cynghorwyr cynaliadwyedd arbenigol yn cynnig cefnogaeth ar grantiau, ynni adnewyddadwy, cynaliadwyedd amgylcheddol a'r Addewid Twf Gwyrdd.
Mae Cyfrifwyr Siartredig Evens & Co yn enghraifft wych o fusnes yng Nghymru sydd wedi lleihau ei ôl troed carbon, wedi gwella'r amgylchedd gwaith ac wedi creu swyddi trwy ddechrau ar raglen gynaliadwyedd gyda chymorth Busnes Cymru a chyllid gan y Banc Datblygu.
Mae benthyciad busnes ar gyfer adleoli, ynghyd â chefnogaeth ar gyfer gweithredu Addewid Twf Gwyrdd, wedi galluogi'r cwmni i leihau allyriadau CO2 ac ymgysylltu'n rhagweithiol â gweithwyr, y gadwyn gyflenwi leol a chwsmeriaid. Felly, mae pawb ar eu hennill.
Yr un mor bwysig ar y daith tuag at sero-net yw'r buddsoddiad yr ydym yn ei wneud mewn prosiectau ynni sy'n eiddo i'r gymuned yng Nghymru. Lansiwyd y Gronfa Ynni Lleol gwerth £12.5 miliwn yn 2016 gan Lywodraeth Cymru ac fe’i rheolir gan y Banc Datblygu gyda’r holl arian yn cael ei ailgylchu i mewn i brosiectau newydd unwaith y bydd arian yn cael ei ad-dalu.
Mae ein cefnogaeth ar gyfer y Co-op Egni fel datblygwyr ynni solar to yng Nghymru yn enghraifft o sut mae ein cyllid yn helpu i ddatblygu mentrau lleol llwyddiannus; cyflawni prosiectau ledled Cymru sy'n mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, creu swyddi, cadw cyfoeth yn economi Cymru ac ennyn diddordeb pobl mewn ynni.
Yn y pen draw, fel buddsoddwr sy'n chwilio am effaith gadarnhaol ar yr agenda Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu (ACLl) rydym yn anelu at hyrwyddo twf cynaliadwy bob amser. Ymlaen â ni, tîm Cymru.