Banc Datblygu Cymru yn adrodd am y lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad ecwiti yng Nghymru

Giles-Thorley
Prif Weithredwr
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes
Ecwiti
Twf
Marchnata
Busnesau technoleg

Mae ffigurau a ryddhawyd gan Fanc Datblygu Cymru heddiw yn dangos twf o 97% mewn buddsoddiadau ecwiti o £11.6 miliwn yn 2021/22 i ffigur uchaf erioed o £22.9 miliwn yn 2022/23, ac roedd £10.9 miliwn o hynny ar gyfer 31 o fentrau technoleg gwahanol.

Mewn cyd-destun economaidd heriol, a welodd Mynegai Pris Defnyddwyr (CPI) yn 10.1% yn y 12 mis hyd at fis Mawrth 2023, cafodd busnesau yng Nghymru fynediad at 516 o fuddsoddiadau ecwiti a dyled unigol gwerth cyfanswm o £124.2 miliwn yn 2022/23 drwy’r Banc Datblygu. Roedd cyd-fuddsoddiad sector preifat o £114.5 miliwn yn cynrychioli cymhareb o 1:0.92* a thyfodd maint bargeinion ar gyfartaledd 14% i £240,748.

Mae uchafbwyntiau eraill 2022/23 yn cynnwys:

•             Ecwiti a dyled yn dod i gyfanswm o £20.55 miliwn i ariannu bargeinion olyniaeth ar gyfer 44 o fusnesau gwahanol

•             £9.9 miliwn ar gyfer 320 micro fenthyciad o hyd at £50,000

•             2,552 o swyddi wedi'u creu a 2,117 o swyddi wedi'u diogelu

•             Buddsoddiad o £19.25 miliwn mewn 114 o fentergarwyr ifanc – gan gynnwys buddsoddi mewn cwmni sydd â cyfarwyddwr sy’n 17 oed

•             Dyfarnwyd £7.8 miliwn i fusnesau twristiaeth o Gronfa Twristiaeth Cymru

•             Cynyddodd y buddsoddwyr sydd wedi cofrestru gydag Angylion Buddsoddi Cymru i 334, gyda 102 o unigolion wedi gwneud buddsoddiadau angylion yn ystod y flwyddyn

Gwelodd y sector eiddo masnachol hefyd dwf sylweddol, gyda chyllid ariannu ar gyfer 71,882 troedfedd sgwâr o adeiladau newydd. Roedd buddsoddiadau gwerth cyfanswm o £6.67 miliwn o’r Gronfa Eiddo Masnachol yn cynrychioli bron i ddwbl y buddsoddiad a wnaed yn 2021/22.

Lansiwyd dau gynnyrch newydd yn ystod y flwyddyn ariannol, y ddau yn rhan allweddol o ymrwymiad y Banc Datblygu i helpu cwsmeriaid newydd a phresennol i fynd i’r afael â datgarboneiddio, lleihau eu defnydd o ynni a llywio’r agenda carbon isel. Derbyniodd y Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd gwerth £10 miliwn 25 o ymholiadau newydd yn ystod y mis cyntaf yn unig, tra bod lansiad y Cymhelliant Cartrefi Gwyrdd gwerth £33 miliwn ym mis Gorffennaf 2022 yn rhoi gostyngiad o hyd at 2% yn y ffioedd benthyca i ddatblygwyr cartrefi newydd yn ddarostyngedig i feini prawf cymhwyso.

Wrth groesawu’r perfformiad cryf, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae Banc Datblygu Cymru yn mynd o nerth i nerth wrth ddarparu cymorth arloesol, ymatebol y mae busnesau ei angen nawr yn fwy nag erioed.

“Ar draws blwyddyn pan arweiniodd amodau economaidd ac ansicrwydd at lawer o fenthycwyr stryd fawr yn bod yn fwy amharod i gymryd risg, er mwyn arbed arian yn eu sefyllfaoedd, mae’r Banc Datblygu wedi helpu i gadw’r llif hanfodol o gyllid hygyrch fel ei fod ar gael i fusnesau ledled Cymru.

“Fe gymerodd Llywodraeth Cymru gamau beiddgar wrth greu banc rhanbarthol cyntaf y DU gyda gwasanaeth sy’n gallu gweithredu ar raddfa tra’n deall anghenion economi Cymru.

“Mae’r gyfres eang o gronfeydd a gynigir gan Fanc Datblygu Cymru wedi helpu cannoedd o fusnesau i drosoli buddsoddiad a sicrhau’r cyllid sydd ei angen arnynt i fuddsoddi a thyfu, a byddwn yn annog busnesau i ystyried a allai’r banc gefnogi eu camau nesaf.”

Meddai Cadeirydd Banc Datblygu Cymru, Gareth Bullock: Yn erbyn cefndir o chwyddiant cynyddol, ansicrwydd economaidd a phwysau costau byw sylweddol, aethom i mewn i’r flwyddyn yn fwy penderfynol nag erioed i sicrhau bod gennym y cyllid a’r gallu angenrheidiol i gwrdd â galw cwsmeriaid.

“Rwy’n falch ein bod wedi parhau i gynyddu lefelau buddsoddi cyffredinol, gan gefnogi ystod eang o fusnesau ledled y wlad a chwarae ein rhan i sicrhau bod busnesau uchelgeisiol yn gallu cael mynediad at y buddsoddiad sydd ei angen arnynt. Byddwn yn cynnal y ffocws hwnnw ar gyflawni yn y flwyddyn i ddod, gan weithio gyda’n rhanddeiliaid yn ecosystem Cymru i gefnogi pobl, busnesau a chymunedau ledled Cymru.”

Dywedodd Prif Weithredwr y Banc Datblygu, Giles Thorley: “Fel un o’r buddsoddwyr cyfalaf menter mwyaf gweithgar yn y DU, rydym wedi parhau i weithio gyda’r sector breifat a chronfeydd newydd sy’n dod i mewn i’r farchnad i sicrhau’r gwerth mwyaf i Gymru . Rydym hefyd wedi gwneud ymdrech sylweddol i hyrwyddo tegwch fel ffactor allweddol sy'n galluogi twf busnes. Mae'n chwarae rhan bwysig yn y cylch bywyd cyflawn o fuddsoddiad mewn busnesau cychwynnol a chyfnod cynnar hyd at fusnesau sefydledig, preifat sy'n bwriadu ariannu olyniaeth ac ymadawiad. Yn wir, buddsoddwyd dros £20 miliwn mewn bargeinion olyniaeth yn ystod y flwyddyn, gan gadw cyfoeth ac ewyllys da yng Nghymru.

“Hefyd, yn 2022/23 gwelwyd ni’n tyfu ein rôl fel buddsoddwr cyfrifol ymhellach, gan esblygu ein prosesau o wneud penderfyniadau i ganolbwyntio fwyfwy ar ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu. Rydym wedi ymuno â menter cynaliadwyedd corfforaethol gwirfoddol mwyaf y byd, megis y Principles for Responsible Investment (PRI) ac fe lansiwyd dau gynnyrch newydd sydd eisoes yn helpu i ariannu busnesau Cymru i leihau eu hallyriadau carbon a chroesawu’r daith tuag at sero net fel rhan o’n hymrwymiad i hyrwyddo a hybu dyfodol gwyrdd yng Nghymru.

“Rydym wedi cyflawni perfformiad clodwiw i Gymru yn y flwyddyn ddiwethaf a byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar gynnal y gefnogaeth i gynaliadwyedd hirdymor economi Cymru.”

*Mae ffigur cyd-fuddsoddi’r sector preifat o £114.5 miliwn yn cynnwys tair bargen arbennig o fawr gyda phecyn cyllid o £32.3 miliwn ar gyfer Creo Medical, £10.8 miliwn ar gyfer QLM a £12 miliwn ar gyfer Coin Cover.