Banc Datblygu Cymru yn buddsoddi £154,000 i gefnogi Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig newydd yn Sir Gaerfyrddin

Donna-Williams
Uwch Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Twf
Marchnata
British Bird of Prey Centre

Mae Banc Datblygu Cymru wedi buddsoddi £154,000 yng Nghanolfan Adar Ysglyfaethus Prydain i gefnogi datblygiad atyniad ymwelwyr newydd yn Sir Gaerfyrddin, gan helpu'r busnes i gryfhau cynnig twristiaeth yr ardal a chreu swyddi newydd.

Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain yw'r unig atyniad adar ysglyfaethus brodorol yn y DU, gan gynnig ‑profiadau agos i ymwelwyr gydag adar Prydeinig ochr yn ochr â sioeau hedfan dyddiol.

Mae'r buddsoddiad, drwy Gronfa Buddsoddi Twristiaeth Cymru, wedi cefnogi'r busnes i symud o'i hen safle yng Ngerddi Botaneg Cenedlaethol a sefydlu canolfan bwrpasol mewn hen ganolfan farchogaeth ym mhentref Idole. Mae'r symud hwn wedi caniatáu i'r busnes weithredu o gartref parhaol a chynllunio ar gyfer twf fel atyniad twristiaeth annibynnol.

Mae'r benthyciad o £154,400 gan y Banc Datblygu wedi darparu cyfalaf gweithio ar gyfer y busnes yn ystod yr ailddatblygiad, sy'n cynnwys bloc o 20 o adardai ac arena hedfan dan do ar gyfer pob tywydd, ynghyd â chaffi, lle manwerthu, canolfan ryngweithiol, a gwaith tir a pharcio cysylltiedig. Mae'r buddsoddiad hefyd wedi cefnogi creu wyth swydd amser llawn yn lleol.

Mae'r ganolfan newydd wedi'i chynllunio i ddenu ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn, gyda sioeau hedfan dyddiol yn digwydd yn yr arena hedfan dan do, lle mae pob aderyn ar y safle yn hedfan yn rhydd. Mae cyfleusterau a gweithgareddau wedi'u cynllunio i fod yn gynhwysol, gyda phrofiadau wedi'u teilwra ar gyfer ymwelwyr ag anghenion addysgol arbennig, dementia, a nam ar y clyw neu'r golwg.

Mae cynlluniau ar gyfer y safle yn y dyfodol yn cynnwys atyniadau ychwanegol i ymwelwyr fel cyfleusterau chwarae meddal, llety gwersylla a glampio, a datblygu'r ganolfan fel lleoliad priodasau.

Dywedodd Emma Hill, Cyfarwyddwr Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain: “Fel busnes twristiaeth, nid oedd gan fanciau stryd fawr yr awydd i fuddsoddi ynom ar yr adeg yr oeddem yn bwriadu tyfu. Rhoddodd y gefnogaeth gan y Banc Datblygu y buddsoddiad yr oedd ei angen arnom i symud ymlaen a sefydlu canolfan sy'n adlewyrchu pwy ydym ni mewn gwirionedd.

“Mae symud wedi ein galluogi i ddatblygu ein hunaniaeth ni ein hunain fel atyniad i ymwelwyr, gan barhau i ddarparu profiadau o ansawdd uchel bob dydd. Mae'r ganolfan newydd yn rhoi'r lle a'r cyfleusterau i ni i dyfu, croesawu mwy o ymwelwyr a chwarae rhan gryfach yn yr economi twristiaeth leol.”

Dywedodd Donna Williams, Uwch Swyddog Portffolio Gweithredol ym Manc Datblygu Cymru: 
“Mae Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain yn enghraifft ardderchog o fusnes twristiaeth sydd â chynnig nodedig a chynlluniau twf clir. Mae’r buddsoddiad hwn wedi cefnogi creu atyniad ymwelwyr o ansawdd uchel a fydd yn denu pobl i’r ardal, yn cefnogi cadwyni cyflenwi lleol ac yn creu swyddi â chyflog da.