Banc Datblygu Cymru yn cyhoeddi canlyniadau ar gyfer 2017/18

Giles-Thorley
Prif Weithredwr
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Ffigurau yn dangos cynnydd mewn buddsoddiad o £11.5 miliwn gyda £68 miliwn wedi ei fuddsoddi mewn busnesau yng Nghymru yn 2017/18 o gymharu â £56.5 miliwn yn 2016/17. 

Fel Cyllid Cymru gynt, mae’r banc datblygu wedi buddsoddi £68 miliwn mewn 285 o fusnesau yng Nghymru yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2017 hyd at 31 Mawrth 2018. Crëwyd neu diogelwyd 3930 o swyddi o gymharu â tharged o 3300. 

Gwnaed cyfanswm o 321 o fuddsoddiadau mewn 285 o gwmnïau gwahanol ledled Cymru gyda £70 miliwn arall wedi ei ddenu o gronfeydd sector preifat. Mae gwiriwr cymhwyster a ffurflen gais arlein newydd wedi helpu i gynyddu’r nifer o geisiadau a dderbynnir 40% o gymharu â’r un cyfnod yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf.  

Mae’r banc datblygu nawr yn rheoli mwy na £1 biliwn mewn cronfeydd gan gynnwys £454 miliwn ar gyfer Cymorth i Brynu – Cymru. Gyda lansiad Cronfa Fuddsoddi Hyblyg Cymru £100 miliwn ym mis Hydref y llynedd, mae gan y banc datblygu nawr yn agos i £0.5 biliwn mewn cronfeydd MBCh yn cael eu buddsoddi’n actif. Mae cronfeydd eraill yn cynnwys Cronfa Busnes Micro Cymru £18 miliwn, sy’n cefnogi mentrau llai gyda benthyciadau rhwng £1,000 a £50,000. 


Tybir y bydd Banc Datblygu Cymru yn cael effaith o £1 biliwn ar economi Cymru erbyn 2022. Mae cwmpas a maint nifer o gronfeydd wedi cynyddu gyda chyflwyniad Cronfa Fuddsoddi Hyblyg Cymru yn cynnig cymorth i fusnesau micro i ganolig eu maint, gyda benthyciadau a threfniadau ecwiti ar gael o £25,000 hyd at £5 miliwn. Rhoddwyd £30 miliwn ychwanegol i Gronfa Eiddo Cymru yn mis Medi 2017, yn manteisio mwy o ddatblygwyr eiddo ac yn cefnogi’r cynnydd mewn adeiladu tai yng Nghymru.  

Gellir nawr gwneud buddsoddiadau hyd at ddeng mlynedd gyda Chronfa Fusnes Cymru yn buddsoddi hyd at saith mlynedd a Chronfa Fuddsoddi Hyblyg Cymru hyd at ddeng mlynedd. Mae dros £271 miliwn ar gael rhwng y ddwy gronfa. 

“Mae hon wedi bod yn flwyddyn brysur a ffrwythlon i ni i gyd ym Manc Datblygu Cymru,” esboniodd y Prif Weithredwr Giles Thorley. “Mae ein ffigurau blynyddol yn dangos bod ein rôl yn hanfodol i gefnogi’r archwaeth am gyllid a thwf yn economi busnes Cymru. Fel cyfundrefn, rydym yn awyddus i harneisio a chefnogi’r uchelgais honno. Ynghyd â buddsoddi mwy na £68 miliwn ym musnesau Cymru, mae ein timau wedi bod yn meithrin partneriaethau dyfnach gyda Busnes Cymru i helpu i ddarparu gwasanaeth di-dor ar gyfer busnesau newydd a chwmnïau sydd eisoes wedi sefydlu ac sydd eisiau llwyddo yma. 

“Gyda’n pencadlys newydd eisoes wedi ei sicrhau yn Wrecsam, rydym eisiau ehangu ein cyrhaeddiad ar draws pob rhanbarth o Gymru. Gan gefnogi ein Cynllun Gweithredu Economaidd yn uniongyrchol, mae ein timau hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda gweddill cymuned fusnes Cymru, gan fuddsoddi mewn cwmnïau a datblygiadau eiddo, ynghyd â helpu gyda mwy na 1937 o gartrefi eleni drwy ein tîm Cymorth i Brynu – Cymru.”

Roedd trawsnewid Cyllid Cymru yn Fanc Datblygu Cymru yn rhaglen fuddsoddi allweddol i Lywodraeth Cymru. Cyhoeddwyd lansio’r banc datblygu ym mis Gorffennaf y llynedd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi Ken Skates. 

Meddai Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates: “Llongyfarchiadau anferth i’r banc datblygu ar wneud yn well na’i dargedau a chreu a diogelu bron i 4000 o swyddi a chefnogi mwy na 230 o fusnesau yn ei flwyddyn weithredu ariannol gyntaf. 
 
“Rwy’n falch o fod wedi cyflawni cynlluniau yn gyflym i sefydlu ein banc datblygu sydd, yn uniongyrchol ac mewn partneriaeth gyda Busnes Cymru ac arianwyr sector preifat, yn rhoi i fusnesau Cymru y gefnogaeth maent ei hangen. 
 
“Mae’r banc yn ychwanegu gwerth gwirioneddol i’r economi ac yn ddiweddarach eleni, yn unol â’n Cynllun Gweithredu Economaidd, bydd y pencadlys newydd yn agor yn Wrecsam. Edrychaf ymlaen at y cyfraniad pwysig y bydd y symudiad hwn yn ei wneud i sicrhau bod twf a ffyniant economaidd yn cael ei ddosbarthu yn decach ar draws rhanbarthau Cymru.”