Banc Datblygu Cymru yn dangos perfformiad “calonogol” yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol

Giles-Thorley
Prif Weithredwr
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ecwiti
Cyfrifeg
Twf
Busnesau technoleg
Dechrau busnes

Profodd Banc Datblygu Cymru hanner cyntaf cadarnhaol hyd at flwyddyn ariannol 2022/23, gyda £55 miliwn wedi’i fuddsoddi ar draws 280 o fuddsoddiadau gwahanol, gyda thua 240 o fusnesau Cymreig yn cael eu cefnogi.

Rhwng Ebrill a Medi, buddsoddodd y Banc Datblygu:

  • £16.4 miliwn i helpu busnesau presennol i dyfu eu gweithrediadau;
  • £1.5 miliwn ar draws 55 o fenthyciadau llai i helpu mentergarwyr i ddechrau busnesau newydd;
  • £8.2 miliwn i helpu timau rheoli i brynu busnesau;
  • £23.8 miliwn mewn buddsoddiad datblygu eiddo;
  • £3 miliwn i brosiectau twristiaeth a hamdden ar raddfa fawr;
  • £5.1 miliwn mewn cyllid ecwiti – gan gynnwys £410,000 drwy gyfrwng Cronfa Gyd-fuddsoddi Angylion Cymru

Yn rhanbarthol, buddsoddodd y Banc Datblygu £16.9m yng nghanolbarth a gorllewin Cymru; £16.06 miliwn i fusnesau yn y gogledd a £22.2 miliwn yn ne Cymru. Mae buddsoddiadau a wnaed hyd yma yn y flwyddyn ariannol wedi diogelu 1,197 o swyddi; gyda 820 o swyddi wedi cael eu creu.

Yn ogystal â buddsoddiad uniongyrchol, mae cymorth gan y Banc Datblygu hefyd wedi denu £31 miliwn pellach o gyd-fuddsoddiad i fusnesau Cymru o fuddsoddiad preifat, gan gynnwys angylion busnes - tua £13 miliwn ohono mewn cyd-fuddsoddiad ecwiti.

Mae benthyciadau datblygu eiddo yn rhan fawr o’r buddsoddiad gan y Banc Datblygu, gyda £23.8m wedi’i fuddsoddi ar draws 45 o brosiectau – ynghyd â mwy o ddiddordeb yn y cymorth a ddarperir i’r sector drwy’r Fenter Cartrefi Gwyrdd a’r Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid. Dywedodd Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru: “Rwy’n falch gyda’r canlyniadau calonogol yr ydym wedi’u gweld yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol gyfredol.

“Mae'n galonogol gweld ein bod yn perfformio yn unol â'n hamcanion a'n disgwyliadau, gyda llawer o fetrigau naill ai'n cyfateb neu'n rhagori ar yr un adeg yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

“Mae mwy o gydraddoldeb yn y dadansoddiad o gyllid rhwng rhanbarthau yn achos da i deimlo hyder wrth i ni barhau i sicrhau bod mynediad at y buddsoddiad cywir ar gael ar draws Cymru gyfan.

“Rydym hefyd yn parhau i ddenu lefelau sylweddol o gyd-fuddsoddiad i fusnesau Cymru gyda chefnogaeth angylion busnes a phartneriaid yn y sector preifat.

“Mae ecwiti yn parhau i fod yn offeryn pwysig i gefnogi busnesau ar draws y cylch busnes ac rydym yn ei weld yn cael ei ddefnyddio fwyfwy i helpu i dyfu busnesau, ac i helpu timau rheoli i gymryd drosodd busnesau presennol.

“Yn unol â'n ffocws cynyddol ar annog mwy o mentergarwyr iau Cymru i gymryd eu camau cyntaf i fyd busnes, rydym wedi gweld diddordeb cryf gan gyfarwyddwyr busnes o dan 30 oed a buddsoddiadau ynddynt, sef £10.5 miliwn.

“Rwyf hefyd yn falch o weld lefel y buddsoddiadau a wneir drwy Gronfa Twristiaeth Cymru, sy’n dangos sut rydym wedi gallu gweithio gyda sector hollbwysig yn economi Cymru a’i gefnogi.”

Ychwanegodd Giles: “Wedi dweud hynny, rydym yn ymwybodol bod Cymru a’r DU yn fwy cyffredinol yn wynebu rhagolygon economaidd anodd, wrth i fusnesau wynebu chwyddiant, cadwyni cyflenwi estynedig, prinder llafur a chostau ynni cynyddol.

“Tra bod galw busnesau am ein gwasanaethau a’r math o fuddsoddiad y gallwn ei ddarparu yn parhau’n galonogol, rydym yn gwybod y gallai llawer mwy o fusnesau geisio cymorth wrth i fenthycwyr confensiynol ddechrau tynnu’n ôl oherwydd ansicrwydd economaidd ehangach.

“Mae Banc Datblygu Cymru yma fel ffynhonnell o gyfalaf sefydlog, amyneddgar i fusnesau ledled Cymru, a byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y cymorth y gallwn ei ddarparu i gysylltu.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i bancdatblygu.cymru