Banc Datblygu Cymru yn parhau â'i gefnogaeth i Talent Intuition

Carl-Griffiths
Rheolwr Cronfa Sbarduno Technoleg
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
stratigens

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Talent Intuition.

Mae Banc Datblygu Cymru  yn parhau i gefnogi'r busnes technoleg newydd ddechrau 'Talent Intuition’ gyda buddsoddiad ecwiti dilynol i ariannu ei dwf yn y dyfodol Sicrhaodd y cwmni ei rownd ariannu sbarduno cyntaf yn 2018 ac aeth ymlaen i dderbyn rownd arall yn 2019. Mae'r buddsoddiad diweddaraf yn dod â'r cyfanswm i £450,000.

Daw'r cyllid ar adeg pan mae'r cwmni data meddalwedd yng Nghaerdydd yn profi galw cynyddol am ei weithlu a’i wasanaethau data yn y gweithle o ganlyniad i bandemig COFID-19.

Mae platfform Talent Intuition, Stratigens, yn tynnu data ynghyd ar sgiliau a lleoliadau pobl fel y gall cwmnïau wneud penderfyniadau am eu gweithlu a’u gweithleoedd yn y dyfodol. Yn fwyaf diweddar, defnyddiwyd gwybodaeth fusnes Talent Intuition gan gwmnïau sydd am lywio ymateb parhad busnes eu pobl dros y tymor hir i ddigwyddiadau mawr fel COFID-19. Bydd y cyllid yn galluogi'r busnes i fanteisio ar y cyfleoedd cyfredol wrth i fusnes ail feddwl sut i ddefnyddio gweithluoedd yn y dyfodol.

Dros y 12 mis diwethaf mae Talent Intuition wedi buddsoddi ymhellach yn ei blatfform technoleg ac wedi penodi swyddogion lefel uwch newydd, sef Dominic Burrows and Malcolm Carr. Bydd y cylch cyllido diweddaraf yn galluogi'r busnes i dyfu ei allu gwyddor data ac ehangu ei ymdrechion marchnata er mwyn adeiladu ar y tracsiwn a'r twf hyd yma.

Banc Datblygu Cymru yw un o fuddsoddwyr ecwiti mwyaf gweithgar y DU yn ôl Beauhurst gyda phortffolio o dros 100 o fusnesau technoleg dechreuol a cham cynnar yng Nghymru. Mae llawer ohonynt yn gwmnïau twf uchel yng Nghaerdydd a'r cyffiniau - un o'r hybiau technoleg sy'n tyfu gyflymaf yn y DU.

Meddai Carl Griffiths, Dywedodd Rheolwr Cronfa Sbarduno Technoleg gyda Banc Datblygu Cymru: “Fe wnaeth cysyniad Stratigens argraff dda iawn arnom o'r dechrau ac rydym yn parhau i gredu yn ei botensial i fod yn fenter twf uchel”.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda thîm arweinyddiaeth Talent Intuition i gryfhau siawns Stratigens o lwyddo. Mae gan Alan ac Alison dîm gwych a chynnig cynnyrch cryf ac rydym yn falch o helpu i ariannu y gwaith o adeiladu eu platfform technoleg fel bod y busnes yn gallu cyrraedd ei lawn botensial.”

Meddai Alison Ettridge, Prif Weithredwr Talent Intuition: “Bydd y gefnogaeth barhaus gan y Banc Datblygu yn ein galluogi i barhau i fuddsoddi yn ein heiddo deallusol. Rydym yn ddiolchgar am eu cefnogaeth ac rydym wrth ein bodd ein bod yn fusnes yng Nghymru. Mae gennym bartner cyllido gwych, cefnogaeth grantiau a hyfforddiant gwych, partneriaethau prifysgol da a mynediad at y doniau gorau. Mae bod yng Nghymru wedi hybu ein huchelgais i lwyddo mewn gwirionedd.”

“Rydyn ni'n mynd i mewn i ecosystem waith newydd ac mae cyflymder y newid yn gyflymach nag y gallai unrhyw un fod wedi'i ddychmygu hyd yn oed ym mis Ionawr 2020. Dyma gyfle i fusnesau ail feddwl sut a ble mae pobl yn gweithio, a dyma'r union her lle y gall Stratigens helpu.”

Ers mis Mawrth eleni, mae Talent Intuition wedi bod yn sylwebu’n rheolaidd, ac yn rhannu data a mewnwelediadau ar yr ecosystem waith newydd. Mae mwy o wybodaeth ar eu gwefan ar y dudalen Ecosystem Gwaith Newydd.