Banc Datblygu Cymru yn penodi Duncan Gray fel Cyfarwyddwr Buddsoddiadau Technoleg Newydd

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
TECHNOLOGY VENTURE INVESTMENTS DIRECTOR DUNCAN GRAY

Mae’r buddsoddwr ecwiti profiadol Duncan Gray wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr Buddsoddiadau Menter Technoleg yn dilyn cyfnod llwyddiannus o dwf yn is-adran Buddsoddiadau Menter Technoleg (BMT) Banc Datblygu Cymru. 

Mae Duncan yn cymryd yr awenau drosodd gan Simon Thelwall-Jones a arweiniodd y tîm rhwng 2019 hyd fis Rhagfyr 2021. Fel y cyfarwyddwr mentrau technoleg newydd, mae Duncan yn symud ymlaen o'i rôl flaenorol fel Dirprwy Reolwr Cronfa (Portffolio Strategol) o fewn y tîm BMT. Mae Mark Bowman yn cymryd ei le, sydd wedi cael ei ddyrchafu o fod yn Uwch Swyddog Buddsoddi i Ddirprwy Reolwr y Gronfa. 

Mae'r tîm BMT hefyd wedi ehangu i gynnwys dau newydd, sef Oliver Wheatley fel Swyddog Buddsoddi, a Jack Christopher fel Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol. Mae hyn yn mynd â’r tîm presennol i 16. 

Yn Gyfrifydd Siartredig cymwys, mae Duncan wedi bod gyda’r Banc Datblygu ers 2017 ac mae wedi gweithio ym maes cyfalaf menter ac ecwiti preifat ers dros 20 mlynedd . Dechreuodd ei yrfa Cyfalaf Menter (CM) gyda 3i plc ac yn fwy diweddar bu’n gweithio fel Cyfarwyddwr Buddsoddiad i’r Equity Fund yn Finance Yorkshire. 

Dywedodd Duncan: “Rwy’n teimlo’n freintiedig i fod yn ymgymryd â’r rôl hon i arwain y tîm Mentrau Technoleg wrth i ni barhau i fuddsoddi yn ein pobl ein hunain a’r cwmnïau sy’n dechrau o’r newydd, y rhai cyfnod cynnar a’r cwmnïau sefydledig sydd angen ein cymorth. Mae gennym ni dîm cryf sy'n cynnwys grŵp gwych o bobl sydd i gyd yn frwd dros dechnoleg ac yn angerddol am ysgogi'r canlyniadau gorau i ni a'n cwmnïau portffolio ecwiti. 

“O'r sectorau technoleg ariannol a thechnoleg feddygol sefydledig i'r diwydiannau gwyrdd sy'n dod i'r amlwg, rydym yn gweithio'n galed i gynyddu maint a gwerth cyffredinol y bargeinion; denu buddsoddiad ar y cyd a darparu cyllid dilynol i’r cwmnïau hynny sydd wedi elwa ar gyllid sbarduno a chyllid cyfnod cynnar. Yn wir, gwerth £4.2 miliwn o fuddsoddiad uniongyrchol yn y cyfnod cynnar, denodd busnesau technoleg £23.2 miliwn o fuddsoddiad gan y sector preifat o fis Ebrill i fis Medi 2021 – mae’r lefel hon o gyd-fuddsoddiad wedi mwy na dyblu o’i gymharu â’r un cyfnod y flwyddyn flaenorol.” 

Daeth Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru i’r casgliad: “Ac yntau wedi’i restru unwaith eto fel un o’r pum buddsoddwr cyfalaf menter gorau yn ôl cyfaint bargen yn y DU, mae ein tîm bellach yn gweithio gyda rhai o gwmnïau twf uchel mwyaf cyffrous y wlad wrth i ni barhau i gynyddu buddsoddiad a denu mwy o gyd-fuddsoddiad. 

“Mae Duncan yn uchel ei barch yn y diwydiant mentrau technoleg ac mae’n dod â dyfnder profiad i’r rôl hon a fydd yn amhrisiadwy. Gyda chefnogaeth Mark fel Dirprwy Reolwr y Gronfa a’r tîm ehangach, bydd yn parhau i gefnogi mentrau technoleg arloesol sydd angen cyllid i ddatblygu a manteisio ar dechnoleg yma yng Nghymru.”