Banc Datblygu Cymru yn ymhyfrydu yn y cig moch a’r selsig o Landysul

Donna-Williams
Uwch Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
myrddin heritage

Cig moch a selsig sydd ar y fwydlen i’r tîm o ŵr a gwraig, Tanya ac Owen Morgan wrth iddyn nhw ddyblu cynhyrchiant gyda benthyciad o £20,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Ar ôl treulio blwyddyn yn Awstralia yn gweithio ar ffermydd moch maes, dychwelodd y cwpl i Landysul i sefydlu ‘Myrddin Heritage’ yn 2018.  Gwnaethon nhw rentu tyddyn gyda moch maes a dechrau cynhyrchu selsig crefftus a chig moch wedi’i halltu’n sych.

Wedi’u cynhyrchu o doriadau gorau a chynhwysion naturiol, daeth y cynnyrch yn boblogaidd yn gyflym gyda bwytai a gwestai lleol.  Drwy weithio’n agos â busnesau lleol eraill, yn cynnwys Crwst, Calon Wen a Teifi Coffee, mae’r Morganiaid yn awr wedi datblygu busnes ar-lein yn ystod Covid-19 sydd hefyd yn cynnig blychau brecwast ar gyfer eu danfon i gartrefi drwy Gymru.  Mae’r cynhyrchiant wedi dyblu yn ystod 2020, gydag oddeutu 15,000 o selsig yn awr yn cael eu clymu a’u gwerthu bob mis.

Eglurodd Tanya ac Owen Morgan: ”Yn ystod ein hamser yn Awstralia, buom yn  gweithio ar bump o wahanol ffermydd, cwrdd â rhai teuluoedd rhyfeddol a ddysgodd gymaint inni am ffermio maes, ynghyd â sut i adeiladu busnes llwyddiannus, ac wrth gwrs, gwnaethom ddysgu cryn dipyn am foch!

“Dychwelasom i Gymru yn 2017, gyda chynllun ac angerdd i droi ein breuddwyd yn wirionedd.  Yn awr, rydym yn magu amrywiaeth o fridiau moch sy’n tyfu’n araf yn ein tyddyn hyfryd, ac rydym yn defnyddio’r toriadau gorau er mwyn cynhyrchu ein selsig maes, ein bacwn maes a’n pwdinau gwaed maes wedi’u gwneud â llaw.

Fel llawer o fusnesau lleol eraill, roedd Covid-19 yn golygu ein bod wedi gorfod meddwl yn gyflym ynglŷn â sut y gallem ni gynnal y busnes yn ystod y cyfyngiadau symud ac addasu i’r normal newydd heb beryglu ansawdd a thraddodiad yr hyn yr ydym yn ei gynhyrchu.

“Rydym wedi gweithio yn wirioneddol agos â chynhyrchwyr bwyd lleol; mae oddeutu ugain ohonom yn cefnogi ein gilydd ac yn meddwl yn greadigol ynglŷn â sut y gallwn ni gydweithio.  Y dull hwn sydd wedi arbed ein busnes yn ystod y cyfyngiadau symud ac sy’n awr yn rhoi platfform inni ar gyfer twf yn y dyfodol, ynghyd â’n cwsmeriaid craidd o fwytai a gwestai.  Gyda chymorth Banc Datblygu Cymru, rydym wedi gallu buddsoddi yn y cyfarpar ychwanegol sydd ei angen i gwrdd â’r galw wrth i gwsmeriaid ddod yn fwyfwy ymwybodol o le y daw eu bwyd.  Mae ein hoffter o ffermio a bwyd da wedi troi diddordeb yn fusnes llwyddiannus, gyda dyfodol disglair.   Yn ogystal, rydym yn helpu pobl eraill fel ninnau, ac felly rydym yn wirioneddol ddiolchgar am yr effaith y mae Banc Datblygu Cymru wedi’i gael.”

Swyddog Portffolio gyda Banc Datblygu Cymru yw Donna Williams.  Ychwanegodd hi: “Drwy flasu’r selsig a’r cig moch rhyfeddol gan Myrddin Heritage, roeddem yn gwybod y bydden nhw’n sicr o fod yn boblogaidd iawn!  Fel cymaint o fusnesau eraill, roedden nhw angen cymorth ychwanegol yn ystod Covid-19, ond rydym wrth ein boddau yn gweld sut maen nhw wedi arallgyfeirio ac wedi achub y cyfle i ddatblygu’r busnes ochr yn ochr â chynhyrchwyr lleol eraill.  Mae Crwst hefyd yn gwsmer i’r Banc Datblygu, ac felly mae’n hyfryd iawn eu gweld nhw’n cydweithio er mwyn mwyhau’r cyfleoedd a datblygu dyfodol cynaliadwy.  Dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw yn y dyfodol.”