Banc Datblygu Cymru yn ymuno gydag Admiral Pioneer i gefnogi Wagonex

Richard-Thompson
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Wagonex staff

Mae Banc Datblygu Cymru wedi cadarnhau ei drydydd buddsoddiad ecwiti yn Wagonex, prif ddarparwr platfform tanysgrifio symudedd y DU – wythnos yn unig ar ôl cyhoeddi buddsoddiad strategol cyntaf gan Admiral Pioneer.

Wedi'i lansio yn 2016, mae Wagonex yn dylunio, adeiladu, ac yn rheoli platfformau tanysgrifio modurol technoleg hyblyg, hollgynhwysol, sy’n galluogi cyflenwyr cerbydau i gynnig opsiynau tanysgrifio yn uniongyrchol i ddefnyddwyr. Maent yn darparu taith ddi-dor i gwsmeriaid o un pen i’r llall, gyda pheiriant penderfynu credyd awtomataidd yn creu contractau hyblyg sy’n cynnwys treth ffordd, yswiriant, yswiriant rhag torri i lawr, a gwasanaethu.

Mae Wagonex wedi sicrhau twf o fwy na 120 y cant, flwyddyn ar ôl blwyddyn ers adleoli i Gaerdydd yn 2019. Roedd hyn yn dilyn buddsoddiad ecwiti cychwynnol gan dîm mentrau technoleg y Banc Datblygu fel rhan o gylch buddsoddi sbarduno.

Dywedodd Toby Kernon, Sylfaenydd a Phrif Weithredwr Wagonex: “Mae hwn yn gyfnod cyffrous i’n busnes wrth i ni barhau i fanteisio ar y cyfleoedd yn y farchnad tanysgrifio ceir. Mae cefnogaeth barhaus y Banc Datblygu fel ein buddsoddwr sefydliadol hirdymor a’r buddsoddiad strategol gan Admiral Pioneer yn dangos cryfder ein busnes ac yn rhoi’r grym i ni gynyddu ein graddfa yn gyflym yn y DU.”

Dywedodd Dr Richard Thompson, o dîm mentrau technoleg Banc Datblygu Cymru: “Mae Wagonex yn enghraifft wych o sut y gall ein buddsoddiad ecwiti ddenu busnesau technoleg twf cyflym i Gymru a throsoli buddsoddiad sylweddol ar y cyd. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Toby, tîm Wagonex a’n cyd-fuddsoddwr strategol newydd Admiral Pioneer.”

Daw’r buddsoddiad diweddaraf hwn gan y Banc Datblygu o Gronfa Busnes Cymru.

Ariennir Cronfa Busnes Cymru gwerth £204 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael ar gyfer bargeinion rhwng £50,000 a £2 filiwn gyda’r telerau’n amrywio o un i saith mlynedd ar gyfer busnesau bach a chanolig (y rhai sydd â llai na 250 o weithwyr) sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, neu sy’n barod i adleoli i Gymru.

Be' nesaf?

Eisiau trafod eich menter ymhellach? Ymholwch trwy ddefnyddio ein ffurflen cysylltu â ni.   

 

Cysylltu â ni