Banc Datblygu yn cefnogi cwmni fintech rhyngwladol cenhedlaeth nesaf gyda buddsoddiad ecwiti cronfa sbarduno

Jack-Christopher
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ecwiti
Cyllid
Busnesau technoleg
AGAM

Roedd Banc Datblygu Cymru ymhlith nifer o gefnogwyr byd-eang a gefnogodd AGAM, cwmni  technoleg ariannol rhyngwladol sydd wedi dechrau o’r newydd mewn rownd ariannu a gaewyd yn ddiweddar.

Gyda'i bencadlys yng Nghaerdydd, nod AGAM yw chwyldroi benthyca, gan ddarparu gwasanaeth sgorio credyd sy’n seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial (DA) i bobl heb hanes credyd neu'r rhai sydd eisiau sicrhau benthyciadau bach.

Mae AGAM – sy'n golygu “ymlaen llaw” yn Bangla – yn defnyddio algorithm sy'n seiliedig ar lythrennedd ariannol unigolyn, mynediad at gyllid, gwytnwch a hyder i farnu eu haddasrwydd ar gyfer benthyca, ac mae hefyd yn darparu modiwlau ar addysg ariannol i helpu i roi hwb i'w sgorau credyd.

Cafodd ei blatfform gwasanaeth nano-fenthyciadau digidol, PrimeAgrim, ei dreialu’n llwyddiannus ym Mangladesh gyda Prime Bank - un o brif fanciau preifat a masnachol y wlad - i helpu i adeiladu sgorau credyd ar gyfer gweithwyr nad ydynt wedi gallu cronni hanes credyd am eu bod wedi  gweithio mewn swyddi sy’n talu gydag arian parod.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd AGAM bartneriaeth gyda SBK Foundation, darparwr microgyllid sy’n gweithredu yn ddigidol yn unig cyntaf un Bangladesh, i roi mynediad at fenthyciadau i weithwyr economi gig a mentergarwyr.

Mae'r cwmni hefyd wedi cael cefnogaeth trwy raglen Mentergarwch Byd-eang Adran Masnach Ryngwladol y DU, Invest UK a rhaglen FinTech Wales Foundry Accelerator.

Mae Shabnam Wazed, sylfaenydd 30 oed a Phrif Weithredwr AGAM, wedi graddio o raglen fintech Cymru.

Dywedodd Shabnam: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi denu cefnogaeth amrywiaeth o fuddsoddwyr rhyngwladol o’r DU, yr UE, UDA ac Asia – gan gynnwys Banc Datblygu Cymru.

“Bydd y cyllid hwn yn ein galluogi i gyflymu ein cenhadaeth, o ran datblygu’r dechnoleg sy’n tanategu’r platfform, hwyluso partneriaethau masnachol newydd, a thrwy fynd i mewn i farchnadoedd newydd yn dilyn y defnydd llwyddiannus ym Mangladesh.”

Dywedodd Jack Christopher o Fanc Datblygu Cymru: “AGAM yw’r union fath o gwmni technoleg ariannol rydym am weithio gydag o, ac rydym yn arbennig o falch o’u gweld yn gwreiddio yn system dechnoleg Cymru – sy’n gweddu’n ddelfrydol i’w dyheadau a’u gweithrediadau.

“Mae AGAM eisoes yn gweld effaith gadarnhaol ym Mangladesh a gall wneud yr un peth i wledydd eraill yn y dyfodol. Mae'n enghraifft wych o fuddsoddwyr yn ceisio cynhyrchu enillion ar eu buddsoddiadau tra hefyd yn cyflawni eu rhwymedigaethau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu.

“Rydym yn edrych ymlaen at y daith sydd o’n blaenau gydag AGAM a’i sylfaenydd Shabnam.”