Banc Datblygu yn cefnogi trefnwyr angladdau Bangor i ehangu’r gefnogaeth sydd ar gael i deuluoedd

Charlotte-Price
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Twf
Angladdau Enfys Funerals

Mae trefnwyr angladdau ym Mangor wedi cael micro fenthyciad gan Fanc Datblygu Cymru, i’w galluogi i ddarparu gwasanaeth newydd i deuluoedd.

Sefydlwyd Angladdau Enfys ar Stryd Fawr Bangor gan ddwy ffrind, Manon Williams a Louise White, yn 2020. Yn ogystal â darparu lle i gwsmeriaid drefnu angladdau, mae ganddynt hefyd gapel gorffwys ar y safle, yn ogystal â gofod amlbwrpasol ar gyfer gwasanaethau a chynulliadau bach.

Ers i Angladdau Enfys gael ei sefydlu, mae wedi darparu gwasanaethau angladdol i deuluoedd ledled gogledd-orllewin Cymru a chyn belled â Llundain, ac maent yn darparu’r ystod eang o wasanaethau sydd eu hangen i drefnu angladd ystyrlon. Mae Manon a Louise wedi hyfforddi fel gweinyddion hefyd.

Mae’r busnes hefyd wedi meithrin cefnogaeth gref yn y gymuned leol, ac mae’r busnes wedi cael ei benodi sawl gwaith gan deuluoedd sydd wedi bod yn falch o’r ffordd y mae’r cwmni’n delio ag angladdau ar gyfer anwyliaid mewn ffordd sensitif a gofalgar. Mae hefyd yn aelod o Gymdeithas y Trefnwyr Angladdau Gwyrdd a Chymdeithas Genedlaethol y Trefnwyr Angladdau, ac mae’r trefnwyr hefyd yn ymddiriedolwyr mynwent naturiol.

Mae’r gwasanaeth bellach wedi derbyn micro fenthyciad gwerth £5,000 gan Gronfa Micro Fenthyciadau  Cymru, sy’n galluogi Manon a Louise i sefydlu gwasanaeth newydd ar gyfer gwaith cynnal a chadw beddi, gyda’r nod o roi ateb cynhwysfawr i deuluoedd ar gyfer cynnal a chadw a gwella edrychiad y beddi. 

Bydd y gwasanaeth newydd yn cynnwys amrywiaeth o dasgau cynnal a chadw, gan gynnwys glanhau, cynnal a chadw gwaith cerrig, a gosod blodau ffres. Bydd y teuluoedd yn gallu dewis rhwng amrywiaeth o gynlluniau gwasanaeth, gan gynnwys ymweliadau misol neu chwarterol, yn ogystal â threfniadau ar gyfer achlysuron arbennig, fel penblwyddi a dathliadau arbennig.

Dywedodd Manon Williams, Cyfarwyddwr Angladdau Enfys: “Rydyn ni bob amser wedi ymdrechu i ddarparu cysur a chefnogaeth i deuluoedd sy’n galaru yn ystod eu cyfnod anoddaf. Mae’r gefnogaeth gan Fanc Datblygu Cymru yn ein galluogi i roi mwy fyth o gefnogaeth i deuluoedd, gan sicrhau bod man gorffwys olaf eu hanwyliaid yn parhau i fod yn deyrnged addas a heddychlon iddyn nhw.”

Dywedodd Charlotte Price, Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol gyda Banc Datblygu Cymru: "Rydym yn falch iawn o fod wedi gweithio gydag Angladdau Enfys ar eu taith i ehangu eu gwasanaethau.

“Mae lefel y gefnogaeth a’r gofal maen nhw wedi’i roi i deuluoedd mewn cymunedau lleol yn galonogol iawn, ac roedden ni’n falch o weld lefel yr ymrwymiad sydd ganddyn nhw i roi mwy fyth o gefnogaeth i deuluoedd lleol.

Mae Cronfa Micro Fenthyciadau Cymru yn cynnig benthyciadau rhwng £1,000 a £50,000, gyda thelerau ad-dalu yn amrywio o un i 10 mlynedd.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.developmentbank.wales/cy