Benthyciad o £1.25m yn helpu gwneuthurwr datblygedig i baratoi ar gyfer twf

Richard-Easton
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
lsn diffusion

Mae LSN Diffusion (LSN), busnes metelegol uwch-dechnoleg, wedi sicrhau benthyciad pellach o £1.25m gan Fanc Datblygu Cymru i gefnogi eu cynlluniau twf uchelgeisiol.

Defnyddir technoleg arloesol LSN i gynhyrchu powdr atoledig uchel o aloi sy'n cael ei ddefnyddio mewn cymwysiadau diwydiannol uwch-dechnoleg, gan gynnwys argraffu 3D a defnyddiau arbenigol yn y sector amddiffyn a diwydiannol eraill.

Bydd y benthyciad diweddaraf yn helpu'r busnes i gynyddu eu gallu cynhyrchu 80% dros y tair blynedd nesaf trwy ehangu cyfleusterau gweithgynhyrchu yng Nghilyrychen, Rhydaman. Bydd yr arian cyllido yn sicrhau parhad y gyflogaeth bresennol ac yn creu 40 o swyddi medrus newydd, gan ddod â'r nifer o weithwyr i dros 135.

Yn 2012, fe wnaeth LSN elwa o gael £350,000 o gyllid cychwynnol gan y banc datblygu.

Meddai Philip Allnatt, Rheolwr Gyfarwyddwr LSN: "Mae'n hanfodol cynyddu gallu i ateb y galw cynyddol am ein cynnyrch ar hyd a lled y byd ac mae hynny'n rhan o'n strategaeth dwf hir dymor ac mae'r benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru yn ein galluogi i ehangu mwy yn gyflym yn hytrach na dim ond dibynnu ar ein hadnoddau ni ein hunain yn unig. Roeddent hefyd yn gallu cynnig telerau hyblyg ac felly rydym wedi strwythuro'r benthyciad i'w ad-dalu dros saith mlynedd."

Wrth sôn am y profiad, dywedodd Mr Allnatt: "Dyma ein hail fenthyciad gan y banc datblygu. Fe wnaeth tîm y banc, dan arweiniad Nick Stork, ddeall mecanwaith y busnes yn gyflym iawn. Mae eu hagwedd tuag at helpu ein busnes ni, sydd 75% yn eiddo i Gymru, yn broffesiynol ac yn ddefnyddiol yn ystod pob cam."

Sefydlwyd y cwmni chwe blynedd yn ôl gan grŵp o fetelegwyr profiadol a rhai iau, peirianwyr a gweithwyr proffesiynol eraill gyda mwy na 350 o flynyddoedd o amser cyfunol yn y diwydiant. Maent bellach yn allforio mwy na 90% o'r hyn a gynhyrchir i farchnadoedd yng Ngogledd America, y Dwyrain Pell - yn enwedig Japan a Chorea - ac ar draws yr Undeb Ewropeaidd. Cymhwysir y cynhyrchion gan dechnoleg uwch ar draws sbectrwm o ddiwydiannau, gan gynnwys archwilio ym maes modurol, olew a nwy, adfer gwres, cynhyrchu gwydr gwag, amddiffyn a'r awyrofod.

Meddai Nick Stork, Dirprwy Reolwr y Gronfa gyda Banc Datblygu Cymru: "Roedd yn bleser gweithio gyda busnes mor arloesol yng ngorllewin Cymru gyda chysylltiadau ar raddfa fyd-eang.

"Mae ein ffocws ni yn y banc datblygu ar weithio gyda busnesau i strwythuro datrysiadau ariannu pwrpasol i'w cefnogi yn ystod pob cam o'u twf ac mae'n wych gweld twf LSN ers iddynt gael y benthyciad i ddechrau'r busnes yn 2012."

Dywedodd Richard Easton, Swyddog Portffolio gyda Banc Datblygu Cymru: "A minnau wedi cael fy magu yn y gorllewin, mae gennyf ddealltwriaeth dda o'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu busnesau yn yr ardal ac rwy'n awyddus i gefnogi busnesau lleol gyda'u cynlluniau twf . Rydym yn benthyg arian i fusnesau lleol ac rydym yn ymfalchïo yn ein gwasanaeth wyneb yn wyneb cyfeillgar.

"Rwy'n edrych ymlaen at ddatblygu ein perthynas â LSN a dangos ein hymrwymiad parhaus i'r busnes hwn yng ngorllewin Cymru."

Caiff Cronfa Busnes Cymru ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (CDRhE) drwy gyfrwng Llywodraeth Cymru. Fe'i cynlluniwyd i ddarparu benthyciadau busnes a phecynnau ecwiti o £50,000 hyd at £2 filiwn.