Beth yw'r gyfrinach i dyfu eich busnes? Cofiwch y tri awgrym syml hyn!

Navid-Falatoori
Uwch Swyddog Buddsoddi
Newidwyd:
Twf

Rydych chi’n berchennog busnes profiadol bellach, ar ôl brwydo’ch ffordd drwy’r ddwy flynedd gyntaf anodd, ac rydych chi wedi dechrau cael eich traed tanoch. Rydych chi’n teimlo’n fwy hyderus wrth redeg y busnes ac mae eich holl waith caled yn dechrau talu ar ei ganfed.

Felly pam fyddech chi am droi’r drol a chyflwyno strategaeth dwf uchelgeisiol? 

Y gwir plaen yw nad oes dim byd yn aros yn llonydd mewn busnes. Mae’r marchnadoedd a’r dechnoleg yn newid o hyd. Hyd yn oed os ydych chi’n hapus â pherfformiad presennol y busnes, dylech chi bob amser chwilio am ffyrdd o ddatblygu. Os nad ydych chi’n gwneud hynny, mae perygl y bydd eich cystadleuwyr yn manteisio ar hynny ac yn tyfu gan ddwyn eich cyfran o’r farchnad.
 
Fel y buddsoddwr mwyaf mewn busnesau bach a chanolig yng Nghymru, rydym wedi helpu llawer o fusnesau sefydlog i dyfu.

Yn seiliedig ar ein profiad ni, dyma rai awgrymiadau syml i’ch helpu i roi hwb pellach i’ch busnes:

Bod yn Fentrus Cofleidiwch ddatblygiadau newydd

Ceisiwch arallgyfeirio i farchnadoedd newydd (rhyngwladol, ar-lein) neu lansio cynnyrch neu wasanaethau newydd. Ystyriwch adnewyddu neu ail-leoli eich brand er mwyn rhoi hwb i’ch busnes. Byddwch yn uchelgeisiol, agorwch ail siop neu hyd yn oed brynu busnes arall.  

Os nad ydych chi wedi buddsoddi yn eich busnes eto, efallai ei bod hi’n amser i roi chwistrelliad ariannol iddo. Efallai ei bod hi’n amser da i ystyried yr ecwiti ac efallai manteisio ar ddenu buddsoddwyr profiadol er mwyn eich helpu i dyfu.

Bod yn Well

Tarwch olwg ar eich systemau a’ch prosesau ac adnabod unrhyw fannau gwan. Buddsoddwch mewn offer a chyfarpar arbenigol i leihau costau cyflenwyr allanol ac i roi hwb i gynhyrchiant. Darparwch fwy o hyfforddiant er mwyn cael y gorau allan o’ch staff. Cofiwch y gall darparu gwell gwasanaethau roi enw da i’ch busnes ac USP cryfach.

Bod yn Fwy

Meddyliwch ar raddfa fawr. Eiddo mwy, mwy o farchnata, mwy o gleientiaid. Ewch i ffeiriau masnach, ymunwch â fframweithiau'r Llywodraeth, ac ewch am gontractau mwy. Cofiwch y gall benthyciad tymor byr helpu gyda llif arian i’ch cynorthwyo i ennill ac i gyflenwi contractau mawr. Gosodwch dargedau uwch i’ch busnes a chymharwch eich busnes â chystadleuwyr mwy o faint.
 
Mae tyfu eich busnes yn her - ond mae’n rhywbeth mae pob perchennog busnes yn gorfod ei wynebu. Serch hynny, gyda’r meddylfryd iawn a drwy gynllunio a buddsoddi’n gywir, gallwch ddatblygu a rhoi hwb sylweddol i'ch busnes.