Bikmo yr yswiriwr beicio yn codi £1.8 miliwn i gefnogi'r twf enfawr mewn beicio byd-eang

Rhodri-Evans
Dirprwy Reolwr Cronfa
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
david george

Mae'r darparwr yswiriant beiciau arbenigol Bikmo wedi sicrhau ei gyllid cyfalaf menter cyntaf o £1.8 miliwn (cyllid Cyfres A). Banc Datblygu Cymru sy'n arwain y buddsoddiad, ochr yn ochr â'r yswiriwr byd-eang.

Mae rhan o'r buddsoddiad ecwiti a'r benthyciad gwerth £1 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru yn galluogi Bikmo i symud i adeilad newydd yn Sir y Fflint. Mae gan y darparwr yswiriant chwaraeon antur arobryn Bikmo hefyd swyddfeydd yn Innsbruck, Awstria a bydd yn adleoli prif swyddfa'r DU i Sir y Fflint cyn gynted ag y bydd y cyfyngiadau llwyrgloi o achos Cofid-19 yn caniatáu.

Wedi'i sefydlu yn 2014, mae Bikmo yn defnyddio technoleg arloesol i gynnig yswiriant cynhwysfawr i feicwyr. Cefnogir dros 15,000 o ddeiliaid polisi gweithredol gan dîm ymatebol o 30 o ffanatics beiciau. Bellach bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi twf byd-eang, gan gynnwys buddsoddiad cynyddol yn y DU, Iwerddon, Yr Almaen ac Awstria.

Yn ddiweddar, mae Bikmo hefyd wedi penodi Gareth Mills yn Brif Swyddog Marchnata. Ymunodd â'r tîm o'r rhwydwaith ffitrwydd cymdeithasol Strava yn fuan ar ôl i Bikmo gyhoeddi eu partneriaeth â darparwr cynllun beicio i'r gwaith mwyaf poblogaidd y DU Cyclescheme.

Gwnaeth David George, Prif Weithredwr Bikmo y sylwadau hyn: “Rydyn ni yma i gefnogi ffyrdd o fyw egnïol pobl, ac rydyn ni am i feicwyr wybod y gallwn ni gynnig gwarchodaeth iddyn nhw, ynghyd â'u beic a'u hoffer, p'un a yw hynny ar ffyrdd neu ar lwybrau. Bydd y buddsoddiad hwn yn ein galluogi i dyfu a chefnogi'r beicwyr hamdden fel rydyn ni wastad wedi'i wneud, ynghyd â'r beicwyr newydd rydyn ni'n eu gweld yn ailddarganfod rhyddid a defnyddioldeb reidio beic yn yr awyr iach.

“Mae beicio yn bwysicach nag erioed i’n hiechyd corfforol a meddyliol, ac fel dull trafnidiaeth ymarferol i ni i gyd aros yn ddiogel a chadw pellter cymdeithasol. Rydyn ni i gyd yn feicwyr yn Bikmo felly rydyn ni'n deall bod angen i feicwyr wybod eu bod nhw'n cael eu gwarchod petai rywbeth yn digwydd.”

Mae Rhodri Evans yn Ddirprwy Reolwr Cronfa gyda Banc Datblygu Cymru. Meddai: “Mae Bikmo yn elwa o gyfuniad cymhellol o dechnoleg y gellir ei graddio, profiad o reoli a chyfoeth o angerdd am feicio.

“Mae’r cyfle i gefnogi taith Bikmo yn gyffrous iawn. Mae'r busnes wedi symud ymlaen yn sylweddol mewn cyfnod byr ac mae hynny’n cynnwys cytundebau partneriaeth hynod drawiadol gyda rhai brandiau proffil uchel. Mae ganddyn nhw gynllun twf clir ar waith ac rydyn ni wrth ein bodd yn eu croesawu i Gymru.”

Ychwanegodd Ross Dingwall, Rheolwr Gyfarwyddwr Broker Channel yn Hiscox UK: “Mae Bikmo yn enghraifft wych o ddefnyddio arbenigedd arbenigol i wneud bywyd yn symlach ac yn haws i gwsmeriaid. Mae ei gynhyrchion yn seiliedig ar ddealltwriaeth ddofn o'r cwsmer ac angerdd am feicio sy'n treiddio ar draws y cwmni. Pan gyfunwch hyn â thechnoleg arloesol, mae'n gynnig pwerus iawn. Rydyn ni'n gwybod ers cryn amser bod gan y sector hwn botensial twf mawr, felly mae'r cyfleoedd i gynyddu graddfa yn golygu bod gan Bikmo ddyfodol cyffrous o'i flaen.”