Buddsoddiad cyntaf ar gyfer syndicet o fuddsoddwyr angylion benywaidd i Gymru

Carol-Hall
Rheolwr Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ecwiti
Twf
Technoleg

Buddsoddiad cyntaf ar gyfer syndicet o fuddsoddwyr angylion benywaidd i Gymru

Mae syndicet buddsoddwr angylion benywaidd cyntaf Cymru wedi nodi ei fuddsoddiad cyntaf mewn llwyfan gwybodaeth busnes newydd, a gefnogir gan Fanc Datblygu Cymru.

Cefnogodd Merched Angylion Cymru (MAC) Talent Intuition a’r Prif Weithredwr Alison Ettridge o Gasnewydd gyda £60,000 i mewn i’w meddalwedd Stratigens, cynnyrch Meddalwedd fel Gwasanaeth sy’n dod â data marchnad lafur, economeg a lleoliad ynghyd i roi’r mewnwelediad sydd ei angen ar fusnesau i lunio penderfyniadau mwy doethach.

Gyda'i bencadlys yn Tramshed Tech, mae cwsmeriaid y busnes yn cynnwys brandiau mawr fel BP, EY a Netflix.

Ategwyd y buddsoddiad hefyd gan £20,000 gan Matthew Epps – a ddaeth i’r fargen drwy rwydwaith Angylion Buddsoddi Cymru – ynghyd ag £80,500 o Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Banc Datblygu Cymru, a £50,000 o Gronfa Sbarduno Technoleg Cymru. – cyfanswm buddsoddiad o £211,000.

Gweithredodd Bethan Darwin o Thompson Darwin Ltd ar ran y syndicet.

Wedi’i sefydlu’n gynharach eleni, nod Merched Angylion Cymru yw annog mwy o ferched i ddod yn fuddsoddwyr, a’i nod yw cefnogi menywod yn y gymuned fuddsoddi cyfnod cynnar yng Nghymru. Fel syndicet, mae gan ei bargeinion fynediad i Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru. Arianwyd y syndicet ar y cyd gan Fanc Datblygu Cymru a Banc Busnes Prydain.

Dywedodd Jill Jones, prif fuddsoddwr gyda Merched Angylion Cymru: “Roeddem i gyd yn falch iawn o fuddsoddi ym meddalwedd Alison a Stratigens – roedd ei hangerdd, ei brwdfrydedd a’i gwybodaeth yn amlwg, ac roedd yn hawdd iawn i bob un ohonom ym Merched Angylion Cymru i weithio gyda hi. Roedd hi’n amlwg yn deall effaith a goblygiadau buddsoddi angylion, ac mae ei huchelgais, ei rhagwelediad a’i blaengynllunio yn rhoi llwybr clir ar gyfer ymadael i ni.

“Mae’r meddalwedd yn mynd i’r afael â bwlch amlwg iawn yn y farchnad, ac mae’r ffaith bod Alison yn rhedeg busnes sefydledig gyda hanes da wedi rhoi achos cryf i ni fod â hyder.”

Dywedodd Alison Ettridge, Prif Weithredwr Talent Intuition: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi derbyn cefnogaeth Merched Angylion Cymru. Mae ganddynt brofiad amrywiol ac eang fel arweinwyr busnes a buddsoddwyr, ac mae cael eu cefnogaeth yn golygu llawer mwy na buddsoddiad cyfalaf yn unig – mae’n arwydd o hyder ac ymddiriedaeth gan wragedd busnes uchel eu parch o bob rhan o Gymru.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Merched Angylion Cymru a chefnogwyr eraill wrth i ni barhau i ehangu a chynyddu ein harlwy i’r farchnad.”

Dywedodd Carol Hall, rheolwr rhanbarthol Angylion Buddsoddi Cymru: “Hoffwn longyfarch Merched Angylion Cymru ar wneud yr hyn a fydd y buddsoddiad cyntaf gan lawer, wrth iddynt barhau â’u nod o gefnogi mwy o ferched i fod yn berchen ar fusnesau a chael eu harwain gan ferched ledled Cymru. Mae’n arbennig o braf gweld y syndicet yn cefnogi Talent Intuition, busnes cyffrous sydd wedi bod ym mhortffolio’r Banc Datblygu ers 2018.

“Mae’r buddsoddiad hwn yn enghraifft wych o angylion lluosog yn dod at ei gilydd i ddarparu symiau bach o gyfalaf i helpu i leihau risg buddsoddiad, tra’n dod â rhwydwaith eang o gefnogaeth i’r cwmni at ei gilydd.”