Buddsoddiad dilynol chwe ffigur ar gyfer Reel Labels i ateb y galw cynyddol am argraffu arbenigol

Sam-Macallister-Smith
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ecwiti
Busnesau technoleg
Technoleg
Reel Label Solutions

Mae Banc Datblygu Cymru wedi cwblhau buddsoddiad chwe ffigwr pellach yn Reel Label Solutions i alluogi’r busnes argraffu arbenigol o Bont-y-clun i gynyddu capasiti cynhyrchu i ateb y galw cynyddol.

Ar ôl cwblhau allbryniant gan y rheolwyr ym mis Mai 2022 a ariannwyd gan gymysgedd o £1.2 miliwn o ecwiti a dyled gan y Banc Datblygu, mae Reel Label Solutions wedi cyflawni twf a ragwelir yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r cyllid diweddaraf wedi'i ddefnyddio i ariannu Tau RSCE newydd wedi ei weithgynhyrchu gan Durst. Mae'r peiriant diweddaraf hwn yn 1200 dpi a bydd yn cynhyrchu labeli digidol ar lefel ansawdd uwch fyth. Bydd y wasg yn helpu'r busnes gyda'i dwf, yn gwella ei amser cynhyrchu ac yn lleihau gwastraff a defnydd ynni yn y busnes. Mae'n un o ddim ond chwe pheiriant yn y DU.

Rheolwr Gyfarwyddwr Reel Label Solutions yw Jonathan Wright. Dywedodd: “Mae’r gefnogaeth gychwynnol gan y Banc Datblygu ar adeg yr allbryniant rheolwyr yn ein rhoi mewn sefyllfa o gryfder gwirioneddol i adeiladu dyfodol cynaliadwy hir dymor.

“Mae’r Banc wedi aros yn driw i’w air ac wedi sefyll wrth ein hymyl wrth i ni dyfu dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r buddsoddiad diweddaraf hwn yn bleidlais wirioneddol o hyder yn ein busnes, gan roi’r cyllid twf ychwanegol sydd ei angen i fuddsoddi yn y dechnoleg argraffu ddiweddaraf wrth i ni gynyddu cynhyrchiant i ateb y galw cynyddol.”

Mae Sam Macalister Smith yn Swyddog Portffolio gyda'r Banc Datblygu. Meddai: “O’r diwrnod cyntaf, mae Jonathan a’r tîm wedi dangos eu hymrwymiad i gynnal eu henw da i allu cyflawni labeli o ansawdd uchel tra hefyd yn cynyddu eu sylfaen cwsmeriaid. Mae ein cefnogaeth barhaus yn golygu y gallant wneud buddsoddiad ychwanegol yn eu cyfleusterau cynhyrchu gyda’r dechnoleg wasg argraffu ddiweddaraf.”

Mae’r cyllid dilynol ar gyfer Reel Label Solutions wedi dod o Gronfa Busnes Cymru sy’n werth £216 miliwn a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael ar gyfer bargeinion rhwng £50,000 a £2 filiwn gyda tymor y benthyciadau yn amrywio o un i saith mlynedd ar gyfer busnesau bach a chanolig (y rhai sydd â llai na 250 o weithwyr) sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, neu sy’n barod i adleoli i Gymru.