Buddsoddiad gan y Banc Datblygu yn dod â chwmni masnachu systematig di-god i Gymru

Jack-Christopher
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ecwiti
Twf
Mentrau tech
Technoleg
Market Dynamics

Mae Market Dynamics, cwmni technoleg ariannol arloesol newydd yn gwbl benderfynol o ddemocrateiddio masnachu systematig ar gyfer masnachwyr ariannol manwerthu, ac maen nhw wedi symud eu gweithrediadau i Brigantine Place, Caerdydd yn dilyn buddsoddiad ecwiti gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae Market Dynamics yn datgloi masnachu systematig ar gyfer masnachwyr newydd a phawb nad ydynt yn gallu codio, gan symleiddio proses a oedd gynt yn gymhleth. Mae eu cymhwysiad gweledol greddfol yn caniatáu i fasnachwyr adeiladu, profi a masnachu gan ddefnyddio strategaethau cwbl awtomataidd heb ysgrifennu un llinell o god.

Yn ddiweddar, caeodd y cwmni rownd cyn-sbarduno o £520,000 o dan arweiniad y Banc Datblygu ochr yn ochr â charfan o angylion strategol, gan gynnwys cyd-sylfaenydd Bebo, Paul Birch, fel cadeirydd.

Dywedodd Andrew Grevett, Cyd-sylfaenydd: “Mae Market Dynamics yn darparu dull syml i unrhyw un drawsnewid eu syniadau yn strategaethau masnachu cwbl awtomataidd heb fod angen unrhyw wybodaeth am godio o gwbl.”

“Mae ein dull di-god syml a greddfol yn ymgysylltu â masnachwyr technoleg sy’n deall be ydi be ar draws y byd, ar draws pob oedran, demograffeg, camau cyfoeth, dosbarthiadau asedau a lefelau o arbenigedd ariannol. Mae agor pŵer masnachu systematig yn llawn ar gyfer masnachwyr manwerthu yn gyfle enfawr a chredwn mai ein dull gweithredu a’n hagwedd weledol yw’r allwedd i ysgogi mabwysiadu hyn ar sail dorfol.”

Ychwanegodd Andrew: “Mae symud i Gaerdydd yn rhoi mynediad i ni at y sector technoleg ariannol a thechnoleg ehangach Cymru, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio yn yr amgylchedd hwn.”

Dywedodd Jack Christopher, Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol gyda Banc Datblygu Cymru: “Mae’r tîm yn Market Dynamics wedi ymrwymo i ddemocrateiddio masnachu technegol ar gyfer cynulleidfa iau sy’n tyfu’n gyflym o fasnachwyr sy’n chwilio’n frwd am ddulliau newydd o gael mynediad at fasnachu systematig, sy’n aml yn gallu ymddangos fel pe tai’n fyd cymhleth i ddechreuwyr.

“Mae gan Andrew a thîm Market Dynamics brofiad helaeth o fasnachu systematig, ac maent wedi adeiladu cwmnïau a chynhyrchion hynod lwyddiannus yn y gorffennol.

“Rydym wrth ein bodd bod ein cefnogaeth a’n buddsoddiad wedi dod â nhw i Gymru. Dymunwn bob llwyddiant iddynt wrth iddynt sefydlu eu hunain yng Nghaerdydd a thyfu o fewn sector fintech Cymru.”

Gall Banc Datblygu Cymru gefnogi mentrau technoleg sy’n tyfu gyda buddsoddiad o £50,000 i £10 miliwn. Mae'r tîm buddsoddiadau menter technoleg yn sector agnostig yn bennaf, gan geisio cyd-fuddsoddiad, ac mae’n buddsoddi o'r cyfnod cyn-sbarduno trwodd i gyfres A a thu hwnt.

Mae'r tîm yn cynnwys arbenigwyr sector mewn technoleg ariannol, bloc gadwyn, seiber, gwyddorau bywyd, technoleg galed, technoleg meddygol a Meddalwedd-fel-Gwasanaeth (MfG), gyda chefnogaeth rhwydwaith cyd-fuddsoddwyr technoleg byd-eang.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i weld www.bancdatblygu.cymru